Llefydd ffyniannus

Ar ôl edrych ar dirlun a hanes eich lle, mae’n bryd dechrau dysgu mwy am sut y mae eich cymuned yn gweithio yn ei hamgylchedd – hynny yw lles eich cymuned. Hyn yw’r cyflwr o fod yn gyffyrddus, hapus ac iach ac mae’n dibynnu’n rhannol ar sut y mae anghenion pobl yn cael eu cwrdd yn y gymuned: anghenion addysg, tai, iechyd, gwaith, hamdden a chymdeithasol.  Yn aml iawn, gelwir cwrdd â’r anghenion hyn a chreu canlyniadau positif yn ‘greu lle’.

Mae ‘creu lle’ yn ffordd o sicrhau bod unrhyw newid neu ddatblygiad newydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at wella’r amgylchedd lle’r ydym yn byw, gweithio a chwarae. Mae’n rhoi pobl wrth galon y broses ac yn creu llefydd llawn bywyd gyda hunaniaeth gadarn a lle y gall pobl ddatblygu ymdeimlad o berthyn.

Mae gan gymunedau ffyniannus a llawn bywyd gymysgedd o lefydd i fyw, gweithio, siopa, bwyta a chwarae, yn aml iawn yn ymyl ei gilydd.

“Mae gan lefydd ystod o bwrpasau gan gynnwys rhoi cyfle i’r gymuned gael datblygu, busnesau lleol gael tyfu a mynediad at waith, gwasanaethau a chyfleusterau drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus. Mae dwysedd datblygu a chymysgedd o ddefnyddiau a deiliadaethau tai’n helpu i greu cymuned amrywiol a mannau cyhoeddus braf.”

Siarter Creu Lleoedd Cymru: https://cy.dcfw.org/siarter-creu-lleoedd-cymru/

Mae cyfoeth o ddata ar dros 300 lle yng Nghymru ar gael drwy fynd i Deall Lleoedd Cymru, gwefan a ddyluniwyd i fod y lle cyntaf i droi ato am wybodaeth ystadegol am drefi a chymunedau yng Nghymru. Bydd hefyd yn gadael i chi gymharu eich lle chi ag eraill ar draws y wlad. Gallech gyfuno’r wybodaeth ag archwiliad cymunedol – beth sydd o fewn taith gerdded o 15 munud i’ch lle? Faint o’r hyn sydd ei angen arnoch bob dydd sydd yma? Beth sydd ar goll ac i ble y mae pobl yn mynd am y pethau hyn?

Llefydd ffyniannus