Dychmygu’r Dyfodol: Llefydd sy’n hybu cymunedau iach a hapus

Mae’n bryd cynllunio! Dylech erbyn hyn fod â llwyth o wybodaeth a syniad da o gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau eich lle, ar sail tystiolaeth gadarn wedi’i thrafod gyda’r gymuned. Yn y cam hwn byddwch yn adeiladu ar eich gwaith gwerthuso ac annog ymgysylltu i greu gweledigaeth a chynllun ar gyfer y dyfodol sy’n cyfathrebu eich syniadau o wella eich ardal, yn unol â pholisi cynllunio. 

Mae creu lle’n broses a hyrwyddir gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru i ennill y manteision mwyaf o ddatblygu, gwelliannau a wneir i lefydd, neu o weithgareddau a digwyddiadau. Mae’n ymwneud â chymunedau’n gallu rhoi eu stamp ar eu lle, ei fannau cyhoeddus a’i ddyfodol. Mae’n ystyried anghenion lle cyfan gan ddod o hyd i botensial a gwneud y mwyaf o bob cyfle er mwyn i lefydd da gael eu creu neu ffynnu. Nod creu lle yw hybu hunaniaeth a chymeriad lleol, ymdeimlad o gymuned, gweithgareddau a chydberchnogaeth, a chysylltu pobl a syniadau. Mae’n adeiladu ar wybodaeth y gymuned a llais pobl leol er mwyn creu cymunedau iachach a hapusach.

Yn gryno – creu lle yw adeiladu ar y dystiolaeth yr ydych wedi’i chasglu a gofyn “sut fath o ddyfodol ydym ni ei eisiau i’n tref neu gymuned?”

Llefydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol:

Beth pe bai llefydd yn cael eu dychmygu gyda thrigolion y dyfodol mewn golwg?

IYn sgîl pandemig Covid-19, mae mwy na 80% o bobl yn credu y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i iechyd a lles na thwf economaidd.[1] Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ymrwymo awdurdodau lleol i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Gall meddwl yn hirdymor ac ystyried effaith ein penderfyniadau ar genedlaethau’r dyfodol ein helpu i wneud penderfyniadau gyda manteision hirdymor i bawb. Gall creu llefydd gofalgar, drwy gynnwys yr holl genedlaethau a chynyddu’r cyswllt rhwng y cenedlaethau, fynd i’r afael ag unigrwydd, atal tensiwn rhwng gwahanol grwpiau oed, a chynyddu lles a chysylltedd cymdeithasol. Gall ystyried cenedlaethau’r dyfodol sicrhau bod yr hyn a wnawn heddiw’n cydbwyso anghenion tymor byr ag effaith hirdymor.

 

Tyllu’n ddyfnach:

Llefydd adfywiol a gwydn

Beth pe bai llefydd yn cael eu dychmygu nid yn unig i fod yn gynaliadwy, mewn cytgord â’r blaned, ond er mwyn adfer, adnewyddu neu adfywio’r amgylchedd?

Mae newid hinsawdd yn her hynod bwysig dros y blynyddoedd nesaf fydd yn effeithio ar ddyfodol pawb. Mae Cymru wedi addunedu i fod yn garbon niwtral erbyn 2050 ond mae cynaliadwyedd yn fwy na charbon yn unig. Mae Amcanion Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn adnabod 17 peth fydd yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy. Maen nhw’n ystyried yr agweddau ehangach ar gynaliadwyedd economaidd a chymdeithasol, bioamrywiaeth, addysg, anghydraddoldeb a llawer mwy.

Ond a allwn symud y tu hwnt i gynaliadwy a chreu llefydd sy’n rhoi’n ôl i’w hamgylchedd?  Mae llefydd adfywiol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd, ecoleg a chymdeithas a gall llefydd gwydn addasu i newid ac adfer o dywydd eithafol ac argyfwng. Gall adnoddau fel Doughnut Economics, sy’n fodel economaidd ar sail egwyddorion dylunio cylchol, ein helpu i ystyried sut i fyw o fewn ffiniau’r blaned er lles pawb.

 

Tyllu’n ddyfnach:

Cymunedau cydlynus a chysylltiedig

Beth pe bai llefydd yn cael eu dylunio i’n cysylltu â’n gilydd a phopeth sydd ei angen arnom? Beth pe gallem gwrdd â’r holl anghenion hyn heb y car?

Mae Canol Trefi yn Gyntaf, neu ddatblygu ‘yn y dref’, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Nod y syniad o gymdogaeth 20 munud yw bod pobl yn gallu cwrdd â phob angen rheolaidd – tai, gwaith, siopa, iechyd, addysg, diwylliant a hamdden, o fewn taith gerdded neu feicio 20 munud. Mae hyn yn hollol wahanol i ddegawdau o dwf tai, cyflogaeth a pharciau diwydiannol ar gyrion trefi. Mae Cynllun Dyfodol Cymru 2040 yn disgrifio uchelgais i greu cymunedau sy’n “llefydd cynaliadwy sy’n cynnal bywydau egnïol ac iach, gyda chymdogaethau trefol cryno a hawdd eu cerdded wedi eu trefnu o gwmpas trafnidiaeth gyhoeddus a chanolfannau defnydd-cymysg, ac yn integredig â seilwaith gwyrdd.”

Tyllu’n ddyfnach:

Canol trefi ar wahân i siopau

Beth pe bai canol trefi’n cael eu dylunio i fod yn llefydd heblaw ar gyfer siopa’n unig?

Mae ffocws siopa canol llawer o drefi wedi bod yn dirywio ers tro byd ers cyn i bandemig Covid-19 ddigwydd, yn sgîl effaith newid mewn patrymau manwerthu a thwf siopa ar-lein. Mae hyn yn gyfle gwych i ni ailfeddwl o ddifrif am bwrpas canol ein trefi a sut y gellir eu hail-ddychmygu i oroesi a ffynnu. Efallai bod y pandemig, fel y disgrifiodd Bill Grimsey, wedi arloesi’r ffordd ar gyfer creu tirlun heb ffocws ar siopa ond ar “iechyd, addysg, diwylliant, tai, hamdden, celf a chrefft, ynghyd â rhai siopau”[2] a allai osod y sylfaen i ganol trefi fod yn llefydd i fod yn hytrach na’n llefydd i brynu. Gallai ffocws ar ganol trefi fel canol y gymuned ddenu pobl a gwella balchder ac ymdeimlad o berthyn. Gallai symud i ffwrdd o’r car a thuag at deithio llesol newid patrymau datblygu er gwell, gydag unedau manwerthu mawr yn cael bywydau newydd fel gweithleoedd, campfeydd neu ganolfannau iechyd.

 

Tyllu’n ddyfnach: