Paratoi cynllun ar gyfer eich lle
Nod cynllun yw:
Adrodd canfyddiadau eich astudiaeth tref
Creu gweledigaeth hirdymor ar sail tystiolaeth ar gyfer dyfodol eich tref
Creu fframwaith ar gyfer darparu’r weledigaeth
Cefnogi mwy o ymgynghori â’r gymuned a cheisiadau am gyllid
Bydd cynllun da yn:
Strategol
Hirdymor – 10 mlynedd o leiaf, ond 20-25 mlynedd yn fwy tebygol
Nodi’n glir beth y mae eisiau ei gyflawni
Cadarn a digon penderfynol i fod yn llwyddiannus
Digon hyblyg i addasu i gyfleoedd newydd
Tryloyw ac agored
Image: Ruthin Town Council / Coombs Jones
Sut fath o gynllun a ddylai fod?
Er mwyn i’ch cynllun gael ei ddarllen yn eang, dylai fod yn gryno, clir a darluniadol. Dylech fod yn gallu ychwanegu ato neu ei ddiwygio wrth symud ymlaen a’r cynllun, a dylai fod ar gael mewn gwahanol fformatau. Gallai gynnwys yr adrannau canlynol:
Cefndir
Gwybodaeth am Dîm eich Cynllun: Pwy ysgrifennodd y cynllun, pryd a phwy sy’n berchen arno?
I bwy ac i ba bwrpas y mae’r cynllun a sut y dylid ei ddefnyddio?
Beth yw ei nodau a’i amcanion?
Eich Lle
Disgrifiad o’ch lle a’i amgylchoedd (ewch yn ôl at y dystiolaeth yr ydych wedi’i hel), gan ddefnyddio cynlluniau a ffotograff lle bo’n briodol
Cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau
Crynodeb o ymgysylltu cymuned, cofnod o ba ymgysylltu cymunedol sydd wedi digwydd, a chrynodeb o’ch canfyddiadau
Eich Gweledigaeth
Eich datganiad gweledigaeth neu themâu allweddol
Sut y cafodd eich gweledigaeth neu themâu eu datblygu
Sut y mae’n ymateb i’ch tystiolaeth
Darparu’r Weledigaeth
Beth yw’r themâu, dulliau a chamau gweithredu fydd yn cefnogi eich gweledigaeth?
Beth yw’r prif amcanion?
Beth fydd y prosiectau ‘cerrig camu’, eu hamserlen a’r amcangostau?
Pwy fydd yn cymryd meddiant o’r prosiectau hyn?
Sut y bwriedir cyllido’r prosiectau hyn drwy’r sector cyhoeddus, preifat neu’r trydydd sector?
Sicrhau Llwyddiant
Pa ffactorau a allai effeithio ar ei lwyddiant neu fygwth ei ddarparu?
Sut y byddwch yn mesur llwyddiant y cynllun?
Datblygu Gweledigaeth
Bydd eich gweledigaeth yn edrych tuag at ddyfodol eich lle. Bydd yn rhoi syniad dyheadol o sut fath o le a allai eich lle fod yn y dyfodol pe bai’r cynllun yn cael ei weithredu.
Bydd y weledigaeth yn ddatganiad cyffredinol o’r cyfeiriad y bydd eich lle’n mynd iddo dros gyfnod y cynllun. Dylai fod yn gryno, unigryw, dyheadol a blaengar – gan edrych tuag at beth fydd eich lle’n edrych fel ymhen deng mlynedd neu fwy. Bydd yn crynhoi nodweddion allweddol y cynllun ac yn seiliedig ar y farn a’r dystiolaeth a gasglwyd gennych eisoes. Os yw eich gweledigaeth wedi’i thywys gan dystiolaeth a barn y gymuned, mae’n fwy tebygol o ddylanwadu ar yr Awdurdod Lleol ac aelodau’r Cyngor. O’ch gweledigaeth, bydd nodau, amcanion a chanlyniadau eich cynllun yn cael eu datblygu.
Darparu eich Gweledigaeth
Unwaith y byddwch wedi diffinio eich gweledigaeth, bydd angen i chi osod amcanion mwy penodol ac amlinellu sut fydd y weledigaeth yn cael ei chyflawni. Bydd hyn yn creu fframwaith fydd yn rhan allweddol o’ch Cynllun Lle, ac yn cael ei ddefnyddio i gyfathrebu gwybodaeth i bobol leol, datblygwyr, dylunwyr, cynllunwyr a’r awdurdod lleol. Bydd yn blaenoriaethu prosiectau, denu cyllid ac egluro’r drefn fonitro.
Mae’n debyg y bydd gennych amryw o dargedau, rhai efallai’n haws eu cyrraedd nag eraill. Dylai Tîm eich Cynllun benderfynu beth sydd angen ei flaenoriaethu i gyflawni eich gweledigaeth. Dylech gynhyrchu ac adolygu amcanion a syniadau ar gyfer prosiectau, gan feddwl am y targedau sydd angen sylw ar fyrder, yn y tymor byr a’r tymor hir.
Dylai eich fframwaith amlinellu:
Beth fydd Tîm y Cynllun, yr Awdurdod Lleol a’r ymgynghorwyr yn ei wneud i gyflawni’r weledigaeth
Pa weithredu neu dasgau sydd eu hangen i gyflawni’r weledigaeth?
Prosiectau a’u heffaith yn y dref
Ffyrdd o gyflawni’r prosiect, gan gynnwys faint y gallai ei gostio a pha mor hir y gallai ei gymryd
Pa gyllid a allai fod ar gael i gefnogi’r gweithredu
Unrhyw risgiau a allai atal y gweithredu rhag digwydd, a sut y gellid datrys y risgiau hyn
Sut fydd llwyddiant yn cael ei fesur.
Dylai Tîm eich Cynllun benderfynu beth sydd angen ei dargedu i gyflawni eich gweledigaeth. Dylech gynhyrchu ac adolygu syniadau ar gyfer prosiectau, gan feddwl am y targedau sydd angen sylw ar fyrder, yn y tymor byr a’r tymor hir. Cofiwch ystyried rhaglenni a phrosiectau sydd eisoes ar waith yn y dref a sut y gallai’r cynllun gyd-fynd â nhw.