Cynnwys eich cymuned

“Bydd annog pobl a chymunedau i ymgysylltu’n eich rhoi mewn cysylltiad ag amrywiaeth o leisiau, syniadau a straeon gan eich helpu i weu a chreu stori bwerus am sut y mae’r siwrne ddylunio’n cyd-fynd â’r cyd-destun lleol a sut y mae’n cysylltu â phobl leol.”

The Glass House, Community Led Design (2019): Tips for your community engagement strategy.

Ar ôl dechrau hel tystiolaeth am eich lle, bydd angen i chi ddechrau cynnwys pobl gan siarad a thrafod gyda thrawsdoriad mor eang â phosib o’r gymuned. Bydd cael pobl leol i ymgysylltu’n ystyrlon yn y broses yn eich helpu i ddeall anghenion, dyheadau a syniadau pobl leol a sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau ((Ymgyfrannu - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru)).

Bydd cymuned sy’n ymgysylltu’n llwyddiannus yn dod â chefnogaeth ehangach i’r cynllun yn hytrach na chael ei arwain gan un person neu grŵp yn unig.Mae digon o enghreifftiau o ddulliau dychmygus o annog ymgysylltu y gellid eu defnyddio a allai gynhyrchu gwahanol fathau o adborth, o ddata ffurfiol i ddehongliadau personol.

Gallech ystyried:

  • Holiadur neu arolwg aelwydydd – ar-lein neu ddrws i ddrws neu mewn digwyddiadau i ennill barn ehangach a thystiolaeth o anghenion y gymuned 

  • Gweithdai a digwyddiadau cymunedol ag ystod o bobl 

  • Sesiynau gwyntyllu neu greu syniadau 

  • Gweithdai grwpiau bach neu drafodaethau ffocws â grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’, fel pobl ifanc neu’r henoed 

  • Gweithio gydag artistiaid lleol i drafod eich lle drwy weithdai rhyngweithiol 

  • Defnyddio’r we, e-byst a’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu newyddion a syniadau Gweithdai gydag ysgolion a cholegau 

  • Cael stondin yn llawn syniadau mewn marchnad neu ffair

  • Cynnal digwyddiadau neu arddangosfa mewn siop wag 

  • Creu hysbysfwrdd ‘wal gymunedol’ i ddangos eich gwybodaeth ddiweddaraf 

  • Rhedeg ‘ffoto-farathon’ – cystadleuaeth am y 6 ffotograff gorau ar 6 thema i’w dewis mewn 6 awr 

  • Dangos map mewn digwyddiad i ofyn i bobl beth y maen nhw’n ei garu, casáu a beth fydden nhw’n ei newid 

  • Teithiau tywys – cofiwch am yr asedau y mae pobl yn sôn amdanynt 

  • Gofyn i grwpiau cymunedol dynnu llun eu hardal a nodi eu hargraffiadau 

LLAIS POBL Y GRYSMWNT

Yr her: Sut y gall digwyddiad stondin godi helpu i gasglu hanesion a syniadau pobl leol?

Darllen rhagor

Cofiwch gofnodi adborth y gymuned yn ofalus o bob digwyddiad neu weithgaredd a drefnwch.

Gall hyn fod yn dystiolaeth i gefnogi eich syniadau, codi pryderon, neu awgrymu syniadau eraill nad ydych efallai wedi eu hystyried. Bydd rhestr o enwau’r bobl sy’n dod i’ch digwyddiadau, a’u cyrff cyswllt, hefyd yn bwysig - ond gan sicrhau eu bod yn gwybod eich bod yn hel eu gwybodaeth ac yn caniatáu i chi gysylltu â nhw. Gallech ystyried recordio digwyddiadau drwy sain, fideo neu ffotograffiaeth neu ddefnyddio taflenni adborth i’w llenwi gan bobl leol neu gyfwelwyr. Gallech hefyd roi hysbys a recordio digwyddiadau ar wefan eich Cynllun Lle.