Da iawn chi! Mae eich cynllun bellach yn barod i gael ei lansio.

Mae’n syniad da lansio’r cynllun yn swyddogol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i’r gymuned bod y cynllun yn derfynol ac yn gyfle iddyn nhw gynnig eu hunain i weithio ar brosiectau perthnasol. 

Rhoi hysbys - gweiddwch am eich cynllun ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y radio ac yn y newyddion lleol i roi gwybod i bobl ei fod yn swyddogol!

Gallai fod angen dod o hyd i gyllid i’ch helpu i ddarparu eich cynllun. Dyma rai ffynonellau cyllid i feddwl amdanynt, mae rhestr lawn ar gael yma.

Cadw pethau i fynd

Bydd monitro a chydlynu’r cynllun yn dibynnu ar gael nifer o randdeiliaid i gymryd rhan mewn datblygu a chytuno ar amcanion a bod yn gyfrifol am eu cyflawni. Bydd angen i Dîm eich Cynllun adolygu eich cynllun o bryd i’w gilydd i sicrhau bod yr amcanion yn cael eu cyflawni a bod eich gweledigaeth yn ffocws o hyd.

Dylid cynhyrchu adroddiad monitro blynyddol bob 12 mis ar ôl dyddiad mabwysiadu’r cynllun. Dylai adroddiad monitro egluro’r cynnydd a wnaed gyda phob un o’r camau gweithredu. Gallai gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol fel y rhai a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Meddyliwch am:

  • A yw nod strategol y weledigaeth yn cael ei gwrdd

  • A yw’r camau gweithredu’n cael eu cwblhau ar amser

  • Effaith y gweithredu ar y dref ehangach

  • A ddaeth unrhyw weithgareddau neu fanteision annisgwyl, neu brosiectau eraill, allan o’r camau gweithredu

  • A gafodd y camau gweithredu effaith gadarnhaol

Er mwyn cadw eich cynllun yn berthnasol, dylid ei adolygu’n gyson a chynnal adolygiad ffurfiol o’r cynllun bob 5 mlynedd. Nid yw adolygu’r cynllun yn golygu gorfod ail-ddechrau’r broses gyfan, ond yn gyfle i chi adolygu’r dystiolaeth a’r cynllun gweithredu. Dylai unrhyw adolygiad o gynllun gael ei oleuo gan ymgysylltu gan y gymuned gyfan i sicrhau bod unrhyw newid yn adlewyrchu uchelgais y gymuned. Dylid adolygu eich cynnydd yn erbyn cerrig milltir a dathlu pob llwyddiant.

Dylech ystyried sut y gallwch fesur effaith unrhyw newid. Gallech gynnal arolwg blynyddol i fesur boddhad preswylwyr neu fusnesau; cyfrif faint o bobl sy’n dod i’r dref i weld a oes newid; monitro faint sy’n ymweld ag atyniad, digwyddiad neu gyfleusterau cymunedol; asesu data’r Cyfrifiad am newid i’r patrwm cyflogaeth; neu gofnodi nifer y siopau gwag neu fathau o ddeiliadaeth tai dros rai blynyddoedd.