Cwblhau’r cynllun yn derfynol

Mae’n bwysig bod eich cynllun yn cyd-fynd â pharamedrau eich fframwaith polisi cynllunio lleol. Yng Nghymru, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i greu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae hwn yn disgrifio’r strategaeth gyffredinol ar gyfer ardal, y math a faint o ddatblygu sy’n ddisgwyliedig, faint a pha fath o ddatblygu fydd yn cael ei gefnogi, a pholisïau amgylcheddol a chymdeithasol. Ni all Cynllun Lle greu polisi newydd na newid polisi presennol, felly rhaid i gynnwys y cynllun gyd-fynd â’r Cynllun Datblygu Lleol presennol neu gael ei baratoi i oleuo CDLl newydd neu ddiwygiedig. 

  • Os bwriadwch ddatblygu eich cynllun fel Cynllun Lle a rhan ffurfiol o’r broses gynllunio, dylech hefyd weithio gyda Thîm Cynllun Lle eich Awdurdod Lleol i gytuno a fyddai’r cynllun yn addas i symud ymlaen arno fel Canllawiau Cynllunio Atodol. Bydd Swyddogion Cynllunio’n adolygu’r cynllun a darparu testun eglurhaol yn egluro sut y mae’r cynllun yn ymateb i’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a pha elfennau fydd yn berthnasol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio. Os bwriadwch i’ch cynllun gael ei fabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol, bydd angen iddo gael ei gyflwyno’n ffurfiol i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a mynd drwy broses ymgynghori o 8 wythnos. Er bod hyn yn swnio’n ffurfiol iawn, nid oes angen poeni; mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru’n ymrwymedig iawn i ddarparu Cynlluniau Lle. Mae’r cyfarfod yn gyfle i Aelodau’r Awdurdod ddysgu am y cynllun a’r gwaith o’i baratoi, a phenderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r cynllun. Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor, bydd Tîm Cynllun Lle eich Awdurdod Lleol yn trefnu i ymgynghori ar y cynllun drafft. Bydd yr ymgynghoriad yma’n para am 8 wythnos ac yn rhoi cyfle i bobl wneud sylwadau ar y cynllun terfynol.

    Ar ôl i’r ymgynghori ddod i ben, bydd angen i’r Awdurdod Cynllunio Lleol gymeradwyo’r Cynllun Lle’n ffurfiol. Bydd swyddogion yna’n cyflwyno’r cynllun terfynol a’r adroddiad ar yr ymgynghoriad yn argymell mabwysiadu’r cynllun fel Canllawiau Cynllunio Atodol. Os yw Aelodau’n pleidleisio o blaid mabwysiadu, bydd y cynllun yn berthnasol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio.

    Enghreifftiau:

    Cynllun Lle Y Drenewydd a Llanllwchaearn

    Cynllun Lle Abergele

  • Os na fwriadwch i’ch cynllun gael ei fabwysiadu fel canllawiau cynllunio atodol (SPG), neu os penderfynir ei fod yn anaddas, gallwch er hynny fabwysiadu’r cynllun i’w ddefnyddio yn y gymuned a chyflwyno tystiolaeth i ofyn am newidiadau pan adolygir y CDLl. Efallai y byddwch eisiau cynnal eich digwyddiadau ymgysylltu eich hun yn eich cymuned, i hysbysebu’r cyfnod ymgynghori terfynol ar y cynllun.

    Argymhellir bod eich cyngor tref neu gymuned yn mabwysiadu’r cynllun mewn rhyw ffordd, i ddangos ymrwymiad i’r weledigaeth a’r fframwaith. Gallai hyn fod drwy benderfyniad ffurfiol gan y cyngor, neu drwy gyhoeddi eich cynllun mewn digwyddiad cyhoeddus.

    Enghreifftiau:

    Dyfodol Rhuthun

    Cynllun Tref Yr Wyddgrug

EIN TREF, EIN CYNLLUN! CYNLLUN LLE Y DRENEWYDD A LLANLLWCHAEARN

Yr her: Sut i gynhyrchu cynllun hirdymor i gael ei fabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol?

I ddysgu mwy

DYFODOL RHUTHUN

Yr her: Sut y gellir datblygu cynllun hirdymor ar sail ymgysylltu creadigol gan y gymuned?

I ddysgu mwy