Llefydd neilltuol

Beth sy’n gwneud eich lle’n wahanol i lefydd eraill? Yn y rhan yma byddwch yn dechrau meddwl am yr ymdeimlad o le sy’n bodoli yn eich ardal – pam ei bod yn arbennig ac yn edrych fel y mae, a hefyd y bobl sy’n byw yno.

Beth sy’n gwneud eich lle’n unigryw? Ydy eich cymuned yn enwog am ddigwyddiad, person, nodwedd neu adeg mewn amser? Gall lle unigryw ddod o un nodwedd sy’n sefyll allan yn erbyn y lleill a gwneud eich lle’n adnabyddus. Gall cymeriad neilltuol ymestyn y tu allan i ffiniau tref i’r llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol gan greu sbardun ar gyfer gweledigaeth sy’n uno’r gymuned a chynnig manteision economaidd. Yn y rhan yma byddwn yn trafod rhai o’r agweddau a allai wneud eich lle’n neilltuol ac unigryw.

Beth sy’n gwneud eich lle’n unigryw?