Hanes a threftadaeth

Mae sawl lle yng Nghymru’n ffodus o fod ag aneddiadau sy’n llawn cymeriad a llawn o hanes ynghyd â thoreth o dreftadaeth adeiledig a phensaernïaeth, a hanesion pwerus. Mae treftadaeth o’n cwmpas ym mhob man yn yr adeiladau, strydoedd, enwau llefydd, parciau a llawer mwy. Mae dysgu mwy am hanes a gwybodaeth leol yn rhannau pwysig o ymchwilio i beth sy’n gwneud eich tref yn unigryw. Mae gan nifer o lefydd hanes hir ac amrywiol gyda chyfnodau o dwf a dirywiad wrth i’w ffawd a’u ffyniant newid. Gall deall gorffennol eich tref helpu i oleuo eich gweledigaeth ar gyfer ei dyfodol, gan roi persbectif hir ar newid.

Gall ardaloedd hanesyddol greu canolfannau masnachol neu siopa, atyniadau ymwelwyr neu lefydd deniadol a difyr i fyw. Gwarchodir rhai fel Ardaloedd Cadwraeth a allai hefyd fod adeiladau rhestredig a warchodir yn gyfreithiol. Dylai cymeriad arbennig ac unigryw Ardaloedd Cadwraeth gael ei warchod a’i wella ond maen nhw’n gallu bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer addasu, newid, adfywio neu ddatblygiadau newydd. 

Ond ni ddylid canolbwyntio ar yr adeiladau’n unig; meddyliwch am chwedlau, hanesion a llên gwerin.Siaradwch â phobl leol am hanes y dref, eu hanesion a’u profiadau yn eich tref.

  • Beth yw hanes eich lle? Pa mor adnabyddus ac enwog ydy o? A oes unrhyw atgofion gweladwy o’r gorffennol – adeiladau, placiau glas, olion diwydiannol neu hysbysfyrddau?

  • A oes unrhyw chwedlau, hanesion neu gysylltiadau enwog?  Pa hanesion y mae pobl yn eu hadrodd am y lle?

  • Beth y mae’r enwau Cymraeg yn ei ddweud am y lle? Ydy enwau’r strydoedd, adeiladau neu enwau lleoedd yn adrodd hanes gorffennol rhannau o’ch cymdogaeth?

  • A oes unrhyw Ardaloedd Cadwraeth neu adeiladau rhestredig? 

  • Sut brofiad y mae ymwelwyr neu bobl newydd i’r gymuned yn ei gael?