Ffurf a chymeriad
Mae’r rhan yma’n trafod cyfansoddiad y lle ei hun, ei batrwm twf a’i awyrgylch. Mae cymeriad lle, ei awyrgylch unigryw, yn cael ei greu gan ystod eang o ffactorau: hanes, twf, ffurf y dref, deunyddiau, manylion, lliwiau a gwead. Gellir darllen y cyfnodau datblygu hyn, hyd at y presennol, drwy oedrannau’r adeiladau a phatrwm y strydoedd. Bydd twf neu gau diwydiannau, newidiadau amaethyddol, dyfodiad y tollffyrdd a’r tollbyrth, ffyrdd osgoi a thraffyrdd, effaith rhyfeloedd a gwrthdaro, twf trefi yn yr 20fed ganrif a thwf neu ddirywiad twristiaeth, i gyd wedi cael effaith ar ble’r ydym yn byw.
Mae cymeriad eich lle wedi’i greu’n rhannol o’r patrymau a deunyddiau a ddefnyddiwyd. Mae’r deunyddiau – cerrig, pren, brics, rendr, teils ayyb – yn diffinio’r clytwaith o liwiau a’r gwahanol weadau sy’n nodweddu lle.Edrychwch yn agosach.Pa fanylion, lliwiau a gweadau sy’n rhoi cymeriad unigryw i’ch lle? Chwiliwch am themâu a nodweddion tebyg o ran ffurf a deunyddiau toeau, simneiau, patrwm y ffenestri, lliwiau, manylion drysau a chynteddau, ffryntiau siopau ac yn yr addurno ar wyneb yr adeiladau.Gallai adeiladau cyhoeddus pwysig fel eglwysi, capeli, amgueddfeydd a neuaddau tref neu bentref sefyll allan drwy fod yn dalach, mwy neu o wahanol arddull a deunydd na’u hamgylchoedd.Yn yr enghreifftiau gorau, ysbrydolwyd datblygiadau diweddar gan eu hamgylchoedd gyda dyluniadau o safon uchel sy’n adlewyrchu’r lle. Mewn enghreifftiau gwael, gallai’r adeiladau newydd hyn ‘fod yn unrhyw le’.
Sut y mae’r anheddiad wedi’i drefnu? Ydy o ar hyd ffordd, ar ben bryn neu mewn dyffryn, wedi’i glystyru o gwmpas croesffordd, grîn neu sgwâr?
Ble y mae’r canol a ble y mae’r ymylon?
A dyfodd y lle o gwmpas un prif adeilad, er enghraifft castell, marchnad, adeilad diwydiannol neu eglwys?
Beth a ble y mae’r prif adeiladau a thirnodau? Pam fod pobl yn eu hoffi?
Ydy’r adeiladau’n cael gofal da? A oes unrhyw adeiladau sy’n ddolur llygad neu angen eu hatgyweirio?
A oes gwahaniaeth neilltuol rhwng gwahanol rannau o’r lle? Pam felly?
Sut y newidiodd y lle yn yr 20fed a’r 21ain ganrif? Ble y lleolir datblygiadau newydd?