Croeso i Fy Llais Fy Nhref!
Bydd y pecyn ymarferol hwn yn eich helpu i chwarae rhan mewn dylanwadu ar ddyfodol y llefydd sy’n bwysig i chi. Bydd yn rhoi adnoddau a syniadau i chi ystyried potensial, trafod a thrawsnewid eich tref, pentref neu gymdogaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Pecyn canllaw yw Fy Llais Fy Nhref i roi’r adnoddau i chi ystyried potensial eich lle, adnabod beth sy’n unigryw amdano a chyfrannu i’w ddyfodol.
Dewch at eich gilydd! Ymunwch â phobl eraill yn eich cymuned i sefydlu ‘Tîm Cynllun’.
Meddyliwch am y potensial! Meddyliwch am ansawdd eich lle, tref, pentref neu gymdogaeth a’i botensial
Siaradwch ag eraill! Mae holi barn pobl a busnesau lleol yn hanfodol wrth ystyried newid
Mynnwch ddweud eich dweud! Bydd gweledigaeth a chynllun clir ar gyfer eich lle yn eich helpu i gyfathrebu a gweithredu eich gweledigaeth. Bydd yn eich helpu i siarad â’ch Cyngor, Awdurdod Lleol neu ddatblygwr ac yn ddefnyddiol os ydych yn chwilio am gyllid
Chwiliwch am ysbrydoliaeth! Darllenwch ein hastudiaethau achos i’ch ysbrydoli chi a’ch cymuned i wneud gwahaniaeth i’ch tref, o brosiectau bach a rhai ‘DIY’ i rai mawr trawsnewidiol. Hefyd mae llwyth o syniadau ymarferol a dolenni i’ch cysylltu i bobl eraill a’ch helpu ar hyd y ffordd.
Cofiwch ddweud wrthym ni beth sy’n digwydd. Rhowch wybod i ni am unrhyw ddigwyddiadau neu brosiectau. Byddem yn falch iawn o glywed gennych – cysylltwch â ni neu dagiwch eich prosiect #fyllaisfynhref ar y cyfryngau cymdeithasol!
I bwy y mae’r pecyn?
Mae’r pecyn hwn ar gyfer cynghorau tref a chymuned, preswylwyr lleol, grwpiau cymunedol a chymdeithasau preswylwyr sy’n mynd ati i greu gweledigaeth ar gyfer eu lle neu ‘Gynllun Lle’ fel rhan o bolisi cynllunio. Gall eich helpu i ystyried sut y gallai eich tref, pentref neu gymdogaeth ddod yn fwy cynaliadwy a gwella ei les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Ydych chi:
Yn unigolyn neu grŵp cymunedol sy’n awyddus i ystyried dyfodol eich lle?
Yn grŵp busnes lleol sydd eisiau dylanwadu ar strategaeth ar gyfer gwella canol eich tref?
Yn Gyngor Tref sy’n gwneud Cynllun Lle neu’n ymateb i gais cynllunio?
Yn Awdurdod Lleol sy’n paratoi cynllun lleol?
Yn grŵp cymunedol sy’n ystyried cymryd tir neu ased drosodd?
Yn ddatblygwr sy’n ceisio deall y lle’r ydych yn buddsoddi ynddo’n well?
Sefydliad / busnes sy’n ceisio creu dyfodol cynaliadwy i gymuned?
Yna gallai Fy Llais Fy Nhref fod i chi!
LLAIS POBL Y GRYSMWNT
Yr her: Sut y gall digwyddiad stondin godi helpu i gasglu hanesion a syniadau pobl leol?
Pam Fy Llais Fy Nhref?
Nod Fy Llais Fy Nhref yw eich helpu i feddwl am newid. Mae’n rhoi canllawiau ymarferol i unrhyw un sydd eisiau meddwl am ansawdd eu lle, tref, pentref neu gymdogaeth ac yn eich ysbrydoli i gynllunio ar gyfer eu dyfodol. Mae gan nifer o lefydd ymdeimlad cryf o bwrpas cymunedol ond yn aml iawn nid yw pobl leol yn cyfrannu’n bwrpasol i’r prosesau cynllunio neu ddatblygu. Drwy wneud hyn, gallwch wneud gwahaniaeth.
Bydd llwyddiant eich lle yn y dyfodol hefyd yn dibynnu ar sut y gall addasu i newidiadau’n gysylltiedig â’r hinsawdd. Mae tywydd eithafol, newid tymheredd a llifogydd amlach wedi dod â phroblemau hinsawdd i flaen meddyliau pobl a hyn wedi’i adlewyrchu yn natganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru a datganiadau tebyg gan lawer o sefydliadau, yn genedlaethol a thrwy’r byd. Bydd ystyried ffynonellau ynni, lliniaru’r risg llifogydd a datblygu gwydnwch i ymdopi â digwyddiadau tywydd eithafol i gyd yn helpu eich ardal i addasu’n well. Ond mae cynaliadwyedd yn fwy na’r amgylchedd yn unig; mae’n ymwneud ag agweddau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol rhywle hefyd:
“Mae darparu llefydd gwych sy’n helpu aneddiadau a’u trigolion i fod yn fwy amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol gynaliadwy’n cyfrannu’n allweddol at amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ein hamgylchedd adeiledig a naturiol, aer glân, cartrefi o safon foddhaol, trafnidiaeth dda a gwasanaethau iechyd ac addysg yw sylfaen ansawdd y bywyd sydd ei angen arnom i ffynnu. Mae mwy i’w wneud, digon o le i wella a gwir angen i ni gyflymu’r gwaith yn wyneb bygythiadau’r hinsawdd ac i fioamrywiaeth.”
Julie James AS, Rhagair Gweinidogol yn: DCFW, Places for Life 2, p.4.
Drwy’r broses Fy Llais Fy Nhref, gallwch ddatblygu cynllun i helpu i gael dylanwad ar ddyfodol eich lle a’i wneud yn lle gwych i chi, pobl leol ac ymwelwyr gael byw, gweithio a chwarae, heddiw ac yn y dyfodol.
PROSIECT STRYD Y RHEILFFORDD, Y SBLOT, CAERDYDD
Yr her: Sut i ail-ddychmygu safle diffaith a’i droi’n ofod cymunedol aml-ddefnydd?
Image: Mud and Thunder
Beth allech chi ei gyflawni?
Gall manteision mawr ddod o gyfrannu at gynllunio dyfodol eich lle. Nid yn unig y gall wella lles y gymuned, cefnogi’r economi leol a chryfhau gwydnwch cymunedol, gall hefyd ddod â’r gymuned at ei gilydd o gwmpas syniadau cyffredin ar gyfer y dyfodol a helpu eich lle i ffynnu.
“Mae gan y ffordd y mae llefydd yn cael eu cynllunio, dylunio, datblygu a’u rheoli botensial i effeithio’n gadarnhaol ar ble a sut y mae pobl yn byw, gweithio, cymdeithasu, symud o gwmpas ac ymgysylltu. ‘Creu lle’ yw sicrhau bod pob datblygiad neu ymyriad newydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at greu neu wella amgylchedd y gall pobl, cymunedau, busnesau a natur ffynnu ynddo. Mae’n rhoi pobl wrth galon y broses ac yn creu llefydd llawn bywyd gyda hunaniaeth gadarn a lle y gall pobl ddatblygu ymdeimlad o berthyn.”
DCFW, Placemaking Guide, p.6.
Mae cynllun ar gyfer eich lle, gan arweiniad y gymuned, yn rhoi cyfle i’r bobl sy’n adnabod rhywle orau i greu cydweledigaeth ar gyfer ei ddyfodol. Drwy hel gwybodaeth a thystiolaeth a siarad a thrafod gyda phobl leol, gallwch arfarnu cryfderau a gwendidau eich tref ac ystyried y cyfleoedd a’r bygythiadau i’ch lle. Gan ddefnyddio potensial eich lle fel sylfaen, gallwch greu cynllun gydag amcanion clir. Efallai y byddwch eisiau datblygu eich cynllun fel rhan o’r broses gynllunio yng Nghymru. Mater i’ch grŵp chi ei benderfynu yw faint y byddwch eisiau defnyddio Fy Llais Fy Nhref.
Gall Fy Llais Fy Nhref eich helpu i:
Hel tystiolaeth am eich ardal i ddeall ei chymeriad a pha heriau a chyfleoedd sydd ynddi
Siarad gyda rhanddeiliaid a’r gymuned ehangach am eu profiadau, sut y gallai’r ardal ddatblygu a beth sydd angen ei wneud er mwyn lles y gymuned yn y dyfodol
Cytuno ar sut yr ydych eisiau i’r gwahanol agweddau ar eich lle edrych fel yn y dyfodol
Cytuno ar gynllun dan arweiniad y gymuned i greu’r dyfodol hwn gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, cynllun gweithredu i egluro sut y bwriedir gwireddu elfennau o’r uchelgais hwn.
Y system gynllunio yng Nghymru sy’n gyfrifol am sut y datblygir ac y defnyddir tir er budd y cyhoedd[1]. Mae’n blaenoriaethu’r manteision cyfunol hirdymor a’r cyfraniad at wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol llefydd ar draws y wlad. Mae pob Awdurdod Lleol yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i egluro’r cynigion a pholisïau ar ddatblygu eu hardal yn y dyfodol ar sail data economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl yn hirdymor a gweithio’n effeithiol â chymunedau a phobl leol, felly rhaid i bob corff cyhoeddus ystyried eu gweithgareddau mewn ffordd gynaliadwy. Drwy ystyried pobl leol, eu hanghenion a’u gofynion, gall eich cynllun gefnogi a gwella lles eich ardal a chyfrannu at y strategaethau cynllunio ehangach a ddatblygwyd gan eich Awdurdod Lleol.
Gallwch gryfhau eich lleisiau drwy greu Cynllun Lle clir i’ch helpu i gyfathrebu eich dyheadau a gobeithion ar gyfer eich lle. Gellir mabwysiadu Cynllun Lle fel Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ar gyfer eich ardal, i oleuo penderfyniadau cynllunio. Os penderfynwch y byddech yn hoffi i’ch cynllun ddod yn SPG, dylech gysylltu â thîm cynllunio lleoedd eich Awdurdod Lleol i siarad am yr ystyriaethau ymarferol o ysgrifennu cynllun y gellid ei fabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol. Bydd y tîm hefyd yn gallu eich cynghori ar y polisi cynllunio lleol y dylai eich cynllun gyd-fynd â fo os am gael ei ystyried yn y broses gynllunio. Gall yr Awdurdod Lleol eich cysylltu i swyddogion arbenigol eraill fel y timau treftadaeth, ecoleg, twristiaeth a datblygu cymunedol i roi cyngor i chi ar eich Cynllun Lle.
[1] Llywodraeth Cymru, Polisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 11, 2021, t.4.
TRIONGL MAENDY
Yr her: Sut y gallai cymuned Maendy, fel ardal canol dinas yng Nghasnewydd, ailagor a chynnal gwasanaeth toiledau cyhoeddus hanfodol?
Photo: Maindee Unlimited
Pa mor hir fydd o’n ei gymryd a faint fydd o’n ei gostio?
Gallai astudio eich tref a chreu cynllun cymunedol gymryd unrhyw beth o ychydig fisoedd i flwyddyn. Fodd bynnag, bydd gweithredu’r cynllun yn cymryd llawer mwy o amser a dylai fod yn flaengar gydag uchelgais hirdymor.
Mae Fy Llais Fy Nhref wedi’i ddylunio i’ch helpu i greu cynllun cymunedol drwy weithio gyda’r adnoddau yn eich cymuned. Bydd y gost yn amrywio gan ddibynnu ar beth yr ydych eisiau ei wneud, pa adnoddau sydd ar gael i chi, a faint o gymorth arbenigol fydd ei angen arnoch. Gallai cyllid fod ar gael ar gyfer rhannau o’ch prosiect, ond bydd hefyd angen adnoddau fel ystafelloedd cyfarfod, argraffu, siartiau troi, pinnau ysgrifennu a deunyddiau eraill i’ch cynorthwyo.