Dysgu mwy am eich cymuned

Yn y cam hwn byddwch yn hel tystiolaeth i oleuo eich penderfyniadau a chefnogi eich cynigion. Mae angen i’ch Cynllun Cymunedol neu Gynllun Lle gael ei gefnogi gan wybodaeth dda i dywys penderfyniadau Tîm eich Cynllun. Dyma’r cam pryd y byddwch yn hel y dystiolaeth ar beth sy’n gwneud eich lle’n unigryw. Byddwch yn ystyried nodweddion ei gymeriad – edrychiad a theimlad y lle, a pham; a sut y mae’r lle’n gweithio – y bobl, grwpiau a busnesau sy’n gwneud eich lle’r hyn ydyw heddiw. Gellir defnyddio’r wybodaeth yma i dywys, goleuo neu greu cynigion newydd, neu i adnabod agwedd ar gyfer ei gwarchod neu adlewyrchu yn y dyfodol.  

Gellir gwneud hyn drwy gyfres o werthusiadau mewn gweithgorau bach. Gallai siarad a thrafod â’r gymuned ehangach fod yn ddefnyddiol i sicrhau y clywir lleisiau’r holl breswylwyr a grwpiau. Mae’n bwysig ennill dealltwriaeth drylwyr o’r sefyllfa bresennol cyn ceisio mynd ati i ysgrifennu cynllun ar sut y gallai pethau ddigwydd yn y dyfodol. 

Fel man cychwyn, dylech hel eich gwybodaeth a’ch adnoddau am eich lle: mapiau hanesyddol a chyfoes, cynlluniau a strategaethau lleol ar gyfer eich ardal, lluniau hanesyddol ynghyd ag ystadegau. Rhestrir ffynonellau gwybodaeth drwy gydol y pecyn er mwyn ‘tyllu’n ddyfnach’ i’r pethau hyn. Cofiwch gofnodi’r pethau a welwch ac a glywch – mae camerâu a recordwyr sain yn ddefnyddiol i’w cadw arnoch, felly hefyd lyfr nodiadau i dynnu llun y pethau a welwch neu i wneud nodiadau.