Llefydd cysylltiedig

Mae mannau cyhoeddus o’n cwmpas ym mhob man: yn y strydoedd a ddefnyddiwn i fynd i’r gwaith neu i siopa, y parciau lle y cerddwn ein cŵn, y meysydd chwarae i’n plant gael chwarae, y corneli lle y digwyddwn â gweld ffrindiau, y mannau hamdden fel rhandiroedd a chaeau chwaraeon, a’r sgwariau ar gyfer adloniant a marchnadoedd. Mae preswylwyr ac ymwelwyr yn eu profi wrth symud o gwmpas ac maen nhw’n ofod cymdeithasol pwysig i gyfarfod a chwrdd.

Mae effaith economaidd ‘strydlun’ sydd wedi’i ddylunio ac yn cael ei gynnal yn dda yn eang – cynyddu ‘twrw traed’ yng nghanol y dref; creu effaith gymdeithasol a bwrlwm drwy ddigwyddiadau, cymdeithasu a chwrdd wrth fynd heibio; a gwella iechyd drwy annog pobl i dreulio amser yn yr awyr agored.

Llefydd cysylltiedig