Mynediad, teithio a chysylltiadau

Gall pa mor gysylltiedig a hygyrch yw rhywle, a pha mor hawdd yw symud o gwmpas, gael effaith fawr ar ba mor groesawus, diogel a braf i fyw ynddo ydyw. Defnyddir termau fel ‘cysylltedd’ a ‘ hwylustod mynediad a symudiad’ yn aml i ddisgrifio pa mor dda y gall pobl symud o gwmpas. Mewn geiriau syml, lle llwyddiannus yw rhywle wedi’i gysylltu’n dda; gall pobl symud o gwmpas y dref ar hyd ei phrif strydoedd a strydoedd cefn, sgwariau a llwybrau, heb fynd i ben draw nunlle. Mae cysylltiadau diogel a ‘hawdd eu defnyddio’ o adeilad i adeilad ac o le i le ar gyfer cerddwyr, cerbydau, beicwyr a thrafnidaeth gyhoeddus, yn hanfodol i’w llwyddiant. 

Yn y rhan fwyaf o lefydd mae ‘hierarchaeth’ o strydoedd, ffyrdd osgoi a phriffyrdd, lonydd cefn a strydoedd cefn. Ystyrir bod y strydoedd yn llefydd diogel a chymdeithasol i bobl eu cerdded a’u mwynhau.  Mae ceir yn nodweddu’r lle’n gryf, ond mewn sawl man mae pwysau cynyddol i daro cydbwysedd gwell rhwng cerbydau, cerddwyr a beicwyr. Yn wir, o dan y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru), rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru fapio, cynllunio a gwella llwybrau addas ar gyfer teithio llesol, cerdded a beicio’n bennaf, gan annog pobl i ddibynnu llai ar eu ceir ar gyfer siwrneiau byr. Gall hyn gynyddu cyswllt cymdeithasol, adfywio masnach a lleihau damweiniau.

Mae rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus da a llwybrau beicio a cherdded diogel a chyfleus yn helpu i gysylltu pobl â swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau gan leihau problemau parcio a thagfeydd traffig. Ond mewn rhai cymunedau mwy gwledig, nid yw cysylltiadau trafnidiaeth efallai’n economaidd hyfyw. Meddyliwch am y siwrneiau a wneir gan bobl yn eich cymuned a pha mor dda y mae llefydd, gwasanaethau a chyfleusterau wedi eu cysylltu. Gallwch farcio llwybrau bws a thrên a llwybrau troed a beicio ar fap. 

  • Ble y mae’r prif lwybrau drwy eich tref? A oes hierarchaeth o strydoedd, lonydd a strydoedd cefn? 

  • Pa ddewisiadau teithio sydd yna? Pa mor ddibynnol yw pobl ar eu ceir? A oes opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd, cyfleus a fforddiadwy? I ble y maen nhw’n mynd a pha mor aml?

  • Ble mae llwybrau cerdded a beicio? Ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel i'w defnyddio? Ydyn nhw'n mynd lle mae eu hangen arnoch chi ar gyfer teithiau bob dydd?

  • Ble y mae’r rhan fwyaf a lleiaf o draffig? A oes unrhyw bwyntiau gwrthdaro rhwng defnyddwyr y ffyrdd? 

  • A oes unrhyw bwyntiau gwefru ceir trydan yn eich lle? Ble y maen nhw, ydyn nhw’n cael defnydd da?

  • Beth yw ansawdd yr aer o gwmpas eich lle?