Mannau cyhoeddus a digwyddiadau

Gydag adeiladau o’u cwmpas a lle y mae strydoedd pwysig yn cyfarfod, ein sgwariau cyhoeddus a strydoedd marchnad yw calon gymdeithasol ein trefi erioed, ac yn parhau i fod heddiw’n aml. Ond mae’r gwrthdaro rhwng ceir yn symud, parcio, cerddwyr, siopau, caffis, henebion, llefydd eistedd a gwaith plannu’n gallu arwain weithiau at ofod cyhoeddus dryslyd ac anghyson. Mae gofod sy’n annog yr hyn a elwir gan y cynllunydd trefi Jan Gehl yn “Life Between Buildings”[1] - bwrlwm, cwrdd yn ddamweiniol, seti caffis a siopa - yn creu manteision i’r economi a chryfhau ysbryd y gymuned.

Ceisiwch adnabod fannau cyhoeddus pwysicaf eich lle – dyma’r llefydd sydd fwyaf tebygol o gynnal marchnad, gŵyl gerddorol, digwyddiad neu’r goeden Nadolig leol, ac yn ganolbwynt i fywyd lleol. Sut y maen nhw’n cael eu defnyddio ar wahanol adegau o’r dydd, wythnos, mis neu’r flwyddyn: pa ddigwyddiadau a gynhelir a pha mor aml?   Faint o bobl sy’n dod iddyn nhw? Ydy’r mannau cyhoeddus yn teimlo fel calon y lle? 

Gwyliwch eich traed! Edrychwch ar wynebau’r strydoedd, llwybrau a’r palmentydd. Beth yw eu gwneuthuriad? Ydyn nhw mewn cyflwr da? Gall defnyddio un math o ddeunydd wyneb uno lle, ond gall gwahanol ddeunyddiau helpu i adnabod croesfannau, llwybrau i gerbydau ac i feicwyr. Mae cynnal a chadw’n bwysig i gynnal ansawdd yr amgylchedd ar gyfer pobl. Gall wynebau o ansawdd gwael gyda phalmentydd a draeniau wedi torri, sbwriel, tyllau, gwm cnoi neu chwyn i gyd gael effaith negyddol ar naws eich lle. Mae dodrefn stryd, meinciau, potiau planhigion, bolardau, biniau, arwyddion ac ati’n bethau bach ond pwysig sy’n cyfrannu at edrychiad a theimlad eich lle. Mae eu lleoliad a pha mor dda y maen nhw’n cael eu cynnal yn ystyriaethau pwysig.

[1] Gehl, Jan. Life Between Buildings : Using Public Space. 3ydd argraffiad. Copenhagen: Arkitektens Forlag, 1996

  • Beth yw eu nodweddion – er enghraifft, henebion, coed, dŵr, palmantu, parcio, arwyddion, arosfannau bws neu feinciau? 

  • Pa mor dda y mae’r strydoedd a’r mannau hyn wedi eu dylunio? Pa mor groesawus ydyn nhw i bobl o wahanol oed a gallu?

  • Pa ddeunyddiau a ddefnyddir yn y mannau hyn? Ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n gyson, neu ydy hyn yn amrywio?

  • Ydy’r llwybrau’n ddiogel a chyffyrddus i bawb eu defnyddio? Ydy’r mannau cyhoeddus yn braf i bobl dreulio amser ynddyn nhw? Ydy pobl yn teimlo’n ddiogel?

  • Beth yw cyflwr y gwahanol wynebau a’r dodrefn stryd? 

  • Ydy’r lle’n edrych yn flêr?