Parciau a mannau gwyrdd

Mae mannau gwyrdd llwyddiannus yn creu manteision pellgyrhaeddol drwy annog bioamrywiaeth, ymarfer corff, cyswllt cymdeithasol a chwarae. Mae llefydd gyda mannau gwyrdd o ansawdd uchel yn denu buddsoddiad economaidd ac yn cael eu hystyried i fod yn llefydd da i fyw a gweithio ynddynt, gyda phlant yn cymdeithasu’n well pan fydd llefydd da i chwarae yn yr awyr agored.

Gall mannau gwyrdd sydd wedi eu dylunio a’u cynnal yn dda, sy’n cysylltu i’r tirlun a’r dreftadaeth, fod yn elfen bwysig o gymeriad unigryw lleol. Mae rhai parciau a gerddi yn hanesyddol neu dreftadol bwysig ac wedi eu rhestru gyda Cadw / ICOMOS.

Mae ‘seilwaith gwyrdd’ yn cynnwys coed stryd, parciau, ymylon ffyrdd a gwrychoedd, parciau ‘bach’, ardaloedd grîn, mynwentydd, caeau a meysydd chwarae, coedwigoedd, rhandiroedd, glannau afon a’r cysylltiadau llwyddiannus rhwng y pethau hyn a’r tirlun ehangach. Defnyddir rhai parciau neu fannau gwyrdd gan grwpiau o wahanol oed neu ar wahanol adegau o’r dydd neu’r flwyddyn. Pa mor gysylltiedig ydyn nhw a pha mor ddiogel i’w cyrraedd a’u defnyddio?

  • Ble y mae’r mannau gwyrdd yn eich lle, sut fath ydyn nhw?

  • Pa rai sydd fwyaf poblogaidd a pha weithgareddau sydd ar gael yno?

  • Ydy’r mannau gwyrdd wedi eu cysylltu, ydyn nhw’n cysylltu i’r tirlun ehangach?

  • Pwy sy’n eu defnyddio, pa mor ddiogel y maen nhw’n teimlo? Ydyn nhw’n cael eu cynnal yn dda? 

  • Ble y mae pobl yn mynd i chwarae, pa gyfleoedd sydd i wahanol oedrannau?