Gwerthuso eich canfyddiadau

Erbyn hyn bydd gennych gryn dipyn o wybodaeth am eich cymuned a’i hamgylchedd ond beth ydych wedi’i ddarganfod, beth y mae’n ei olygu a beth y mae pobl eraill yn ei feddwl? 

Un ffordd syml o gyfuno a gwneud synnwyr o’r wybodaeth yr ydych wedi’i hel yw drwy wneud dadansoddiad SWOT. Mae’n ffordd hawdd o werthuso eich lle o dan bedwar pennawd: 

  • Cryfderau: beth sy’n llwyddiannus a beth sy’n gwneud i’ch lle sefyll allan?  

  • Gwendidau: beth sydd ar goll, yn aflwyddiannus neu y gellid ei wella, neu beth sy’n rhoi eich lle o dan anfantais? 

  • Cyfleoedd: pa gyfle sydd i newid pethau neu a oes unrhyw ffactorau allanol a allai gynnig cyfle i wneud gwelliannau? 

  • Bygythiadau: a oes unrhyw beth sy’n andwyol i lwyddiant neu gymeriad eich lle neu a allai effeithio ar ei gyfleoedd i wella? A ellir gwneud unrhyw beth i ddatrys neu ddileu’r pethau hyn?

Mae’n bwysig bod eich dadansoddiad SWOT yn cynnwys eich tîm cyfan ac yn adlewyrchu canlyniad eich gweithgareddau ymgysylltu cymunedol. Gellir rhoi sylw i’r cyfleoedd a gyflwynir mewn amrywiol ffyrdd: fel prosiectau paratoi a allai oleuo’r gwaith o ddatblygu eich cynllun (er enghraifft, dadansoddiad traffig neu arolwg ynni cymunedol), fel rhan o’ch gweledigaeth neu fel mesurau mewn golwg i weithio tuag atynt yn y dyfodol. Bydd y broses SWOT yn eich helpu i wyntyllu syniadau ar gyfer y dyfodol sy’n seiliedig ar eich tystiolaeth. 

Cwestiynau i’w gofyn:

  • Sut y gallwn adeiladu ar ein cryfderau? 

  • Sut y gallwn wella ein gwendidau? 

  • Sut y gallwn fanteisio ar gyfleoedd, heddiw ac yn y dyfodol? 

  • Sut y gallwn roi sylw i bob bygythiad? 

Cymharu eich lle

Mae’n bwysig edrych ar eich lle yng nghyd-destun y llefydd eraill yn eich ardal. Gall hyn eich helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a sicrhau bod gan lefydd cyfagos weledigaethau a chynlluniau cydnaws ar gyfer y dyfodol.

Cwestiynau i’w gofyn

  • Beth yw’r berthynas rhwng eich lle chi a’r llefydd sydd o’i gwmpas? Ydych chi’n cydweithredu neu a oes cystadlu cyfeillgar?

  • Beth sydd yr un fath â’r llefydd cyfagos, a beth sy’n unigryw?

  • Beth yw eich pwynt gwerthu unigryw?

  • A oes llefydd eraill yn lleol, cenedlaethol neu’n rhyngwladol gyda blaenoriaethau tebyg?