Prosiectau – cerrig camu i lwyddiant
“Mae gwir effaith dyluniad yr amgylchedd adeiledig yn cael ei deimlo nid yn unig drwy brosiectau mawr ond yn nyluniad llefydd ac adeiladau pob dydd.” [1]
Mae’n debyg y bydd nifer o brosiectau fydd yn ‘gerrig camu’ i gyflawni eich gweledigaeth. Gallai rhai prosiectau fod yn rhai ‘DIY’ sydd angen fawr ddim neu ddim cyllideb; gydag eraill, gallai fod angen cynnwys gwahanol rhanddeiliaid a bidiau am gyllid. Cofiwch ystyried rhaglenni a phrosiectau sydd eisoes ar waith yn y dref a sut y gallai’r cynllun gyd-fynd â nhw. Bydd y ‘manteision buan’ hyn yn creu cynnwrf a dangos bod eich cynllun yn cael effaith ‘syth bin’.
Wrth i syniadau droi’n brosiectau, bydd angen meddwl am ba mor ymarferol a hyfyw ydyn nhw a’u bod yn cefnogi eich gweledigaeth. Efallai y bydd angen edrych ar gynllun busnes, ffynonellau cyllid, allbynnau, cyfrifoldebau ac amserlen gwblhau; gall fod angen mewnbwn gan ymgynghorwyr arbenigol sydd â phrofiad mewn datblygu prosiectau gyda phobl leol. Cofiwch barhau eich cydweithrediad â’ch Awdurdodau Lleol, grwpiau busnes a chyrff eraill.
Gallech gofnodi eich prosiectau posib drwy ddefnyddio fformat cyffredin a allai gynnwys disgrifiad o’r prosiect, yr angen, y manteision, amserlen, pwy sydd angen cael eu cynnwys, costau a ffynonellau cyllid.
Dylai’r adran hon ddisgrifio:
Y ‘cerrig camu’ y disgwylir eu cyrraedd, a’u cysylltiad i’r weledigaeth neu themâu
Yr amcanion sy’n egluro sut y bwriedir cyflawni’r weledigaeth neu themâu
Ffyrdd o gyflawni’r amcanion (e.e. prosiectau DIY, newidiadau dros dro, neu drawsnewid mwy hirdymor)
Amserlen debygol (e.e. 6-12 mis, 1-2 flynedd, 3-5 mlynedd, 5-10 mlynedd)
Amcangostau a pha gyllid a allai fod ar gael i gefnogi’r gweithredu
Rhanddeiliaid i fod yn gyfrifol am y gweithredu
Sut y bwriedir mesur llwyddiant, drwy fetrigau neu gerrig milltir
PLAS CARMEL, ABERDARON, GWYNEDD
Yr her: Sut y gallai capel, tŷ, siop a gardd gael eu hailwampio’n safle treftadaeth cynaliadwy?
Image: Dylan Arnold
PAFILIWN Y GRANGE, GRANGETOWN
Yr her: Sut y gall cydweithrediad rhwng prifysgol a phobl leol drawsnewid hen bafiliwn?
Image: Kyle Hall