Tirlun a gosodiad

Gallwch ‘ddarllen’ hanes eich tref drwy ei lleoliad a’i pherthynas â’r tirlun. Mae llawer o lefydd wedi eu cysylltu’n agos â’u tirlun ac wedi gweithio mewn cytgord â’r tir ers amser hir iawn. Cafodd rai llefydd eu lleoli ar dir llechweddog uchel i bwrpas amddiffyn, neu i reoli llwybrau neu groesfannau afon pwysig. Yn yr oes ddiwydiannol, roedd aneddiadau’n aml yn cael eu codi’n agos at adnoddau y gellid tyllu amdanynt, fel glo neu fetelau gwerthfawr. Er enghraifft, mae amaeth yn parhau i chwarae rôl bwysig yn y Gymru wledig gan ‘gynnal’ y tirlun ond hefyd yn rhan o hunaniaeth llawer o gymunedau gwledig. Mae tirlun yn elwa bywyd gwyllt, yn gallu gwella ansawdd yr aer a chynnig mynediad at natur.

Gallwch ddisgrifio lleoliad naturiol eich lle a’i berthynas â’r tirlun ehangach drwy fapiau a lluniau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynhyrchu Mapiau Rhyngweithiol sydd ar gael am ddim ac a allai roi gwybodaeth gefndir bellach ar gyfer eich astudiaeth. 

  • Sut fath o dirlun sydd yno a sut y mae wedi creu eich lle? 

  • A oes afon, arfordir, camlas neu gwrs dŵr arall?  A oes perygl llifogydd?

  • A oes unrhyw Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol o gwmpas?  

  • Ble yw’r llefydd gorau i fwynhau golygfeydd o’ch lle? Beth welwch chi?

  • Pa gyfleoedd sydd i bobl gael profi natur?

  • A oes unrhyw dirluniau mewn perygl? Er enghraifft oddi wrth newid hinsawdd, llifogydd, dŵr ffo neu ddatgoedwigo?