Llefydd i gyfarfod

Mae cyfleusterau cyhoeddus a chymunedol yn gwella bywydau preswylwyr a chryfhau closrwydd y gymuned gan gyfrannu at ansawdd bywyd y lle. Gall cyfleusterau da greu ymdeimlad o falchder, cynyddu tegwch a chydraddoldeb a helpu i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau cymunedol a gofod perfformio roi mwynhad, diwylliant a syniadau. Mae cyfleusterau meddygol yn sicrhau a diogelu iechyd a gwahanol drafnidiaeth gyhoeddus yn cynorthwyo symudedd a mynediad at gyfleusterau mewn ardaloedd eraill. Mae ysgolion a cholegau’n rhoi cyfleoedd addysgol i blant ac oedolion ynghyd â chyfleusterau at ddefnydd y gymuned y tu allan i oriau ysgol hefyd. 

Mae bywyd a gweithgareddau rhywle’n rhan bwysig o greu lle. Gall adnabod ble y mae digonedd neu ddiffyg gweithgareddau helpu i ystyried pa ddefnyddiau newydd a allai fod yn briodol neu beidio.  

Bydd creu rhestr o’r holl grwpiau a gweithgareddau sydd yn eich ardal, a ble y maen nhw’n cael eu cynnal, yn dangos faint o gyfleoedd sydd ar gael. Cofiwch feddwl am yr holl grwpiau oed, rhyweddau, galluoedd a tharddiadau ethnig; dylech siarad â phobl leol, edrych ar hysbysiadau lleol a chwilio’r we am beth sy’n digwydd yn lleol. Gallech hefyd gadarnhau pa weithgareddau y mae’n rhaid i bobl deithio y tu allan i’r ardal i gymryd rhan ynddynt. 

  • I ba bwrpas y mae pobl yn defnyddio eich stryd fawr neu ganol tref?

  • Pa wasanaethau sydd yn y gymuned, e.e. canolfannau cymunedol, swyddfeydd post, banciau, meddygon, deintyddion, llyfrgelloedd, addoldai, canolfannau hamdden ac ysgolion? Pa mor fawr ydyn nhw? Pwy sy’n eu rhedeg? Pa mor sicr yw eu dyfodol hirdymor? Pa mor hawdd yw cael mynediad atynt? Beth yw cyflwr y cyfleusterau? Beth sydd ar goll?

  • Pa wasanaethau iechyd sydd yn y gymuned? A oes unrhyw gynlluniau hybu iechyd yn y gymuned, e.e. clybiau cerdded, cynlluniau addysg bwyta’n iach neu grwpiau meddylgarwch? 

  • Pa gyfleoedd dysgu a hamdden sydd ar gael yn y gymuned ac i ble y mae pobl yn teithio ar gyfer addysg? I bwy y maen nhw ar gael? Sut y maen nhw’n perfformio?

  • Pa glybiau, gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol sy’n digwydd yn eich lle? Ble y maen nhw’n digwydd a pha mor aml?

  • Ar gyfer beth y mae pobl yn teithio i lefydd cyfagos?

  • A oes rhwydweithiau ynni, cynaliadwyedd neu bontio lleol?