Llefydd i ymweld â nhw

Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru. Mae atyniadau twristiaeth gydol-blwyddyn yn hanfodol i ffyniant a lles yr ardal a’r economi leol. Mae llawer o lefydd yn ffynnu dros fisoedd yr haf ond yn cau dros y gaeaf. Er bod hyn yn rhoi manteision economaidd, gall hefyd achosi effeithiau negyddol fel cynyddu prisiau tai, gwaethygu traffig a llygredd aer a rhoi mwy o straen ar wasanaethau cyhoeddus. Fel y mae RTPI yn ei ddisgrifio, mae cydbwysedd i’w daro rhwng denu twristiaeth a’i werth i fusnesau lleol [1].

Mae’n bwysig gwarchod atyniadau a chyfleusterau traddodiadol, meddwl am syniadau twristiaeth newydd a hybu atyniadau y tu allan i’r misoedd prysur, ond diogelu’r amgylchedd a threftadaeth hefyd. Gallai annog gweithgareddau awyr agored fel beicio, cerdded a thwristiaeth amgylcheddol a threftadaeth helpu i gynnal y diwydiant twristiaeth a chymunedau lleol.  

[1] (Plan The World We Need (rtpi.org.uk)

  • Ydy twristiaeth yn bwysig yn eich ardal? 

  • Beth sy’n denu ymwelwyr i’r lle? A oes strategaeth dwristiaeth?  

  • Beth yw’r effeithiau da a sut y gallech hyrwyddo hyn? 

  • A oes unrhyw heriau’n gysylltiedig, a sut y gellid eu datrys? 

  • Ydy o’n dwristiaeth drwy’r flwyddyn neu dymhorol? Ydy’r boblogaeth yn newid ar wahanol adegau o’r flwyddyn?