Llefydd ar gyfer pobl

Pobl sy’n creu lle. Mae dysgu mwy am wneuthuriad y gymuned yn gam pwysig i ddeall beth sydd ei angen a’i eisiau ar bobl.

Gallwch ddysgu mwy am eich cymuned o ddata cyfrifiadau lleol fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am ystod eang o bynciau fel oed y preswylwyr, math a maint y teuluoedd, grwpiau ethnig, gweithgarwch economaidd ac iechyd y gymuned yn gyffredinol. Ochr yn ochr â’r wybodaeth sydd ar gael o ddadansoddi data, gallwch hefyd holi pobl am eu cymuned a beth yw ei chryfderau a’i gwendidau yn eu barn nhw.  

Mae 62% o bobl Cymru’n cytuno bod gan eu hardal leol ymdeimlad da o gymuned[1]. Gallai hyn ddod o’r croeso a roddir i bobl, pa mor ddiogel y maen nhw’n teimlo neu o’r gwahanol weithgareddau cymdeithasol sydd ar gael. Ond beth y mae pobl yn eich lle’n ei ddweud? Gallwch hefyd ofyn i bobl sut y maen nhw’n teimlo am eu cymuned drwy arolwg aelwydydd. Bydd hyn yn rhoi barn y bobl sy’n byw yn eich lle i gefnogi’r dystiolaeth ddata. Ceisiwch adnabod y rhannau o’r gymuned sydd angen i chi holi eu barn ac efallai’n anodd cysylltu â nhw, neu eu cael i fynychu digwyddiadau. Gall y grwpiau hyn gynnwys plant, oedolion ifanc, grwpiau anabl, lleiafrifoedd ethnig a’r henoed. Ceisiwch eu cynnwys a gofyn iddynt beth a allai eu helpu a’u hannog i gymryd rhan.

[1] Arolwg Cenedlaethol Cymru (Chwarterol) Ionawr - Mawrth 2021

  • Beth yw demograffeg yr ardal? Sut y mae’n cymharu â’r cyfartalog drwy Gymru?

  • Sut y mae eich lle’n newid / debygol o newid yn y dyfodol? Ydy o’n tyfu neu ydy pobl yn gadael?

  • Sut fyddech chi’n disgrifio’r teimlad o gymuned yn eich ardal? Gofynnwch i bobl sut fath o gymuned ydy hi. 

  • Pa gyfran o’r gymuned sy’n siarad Cymraeg?

  • Sut y mae’r gymuned yn gwasanaethu pobl iau a hŷn? 

  • Pa adeiladau diwylliannol a chrefyddol sydd yno, a pha ddefnydd a wneir ohonynt?

  • Ydy pawb yn teimlo eu bod yn perthyn i’r gymuned, beth bynnag yw eu hoed, rhywedd, tarddiad ethnig, cred, rhywioldeb neu anabledd?

  • Pa mor ddiogel ydych chi’n teimlo yn ystod y dydd ac wedi nos? A oes unrhyw bryderon am droseddu? A oes cynllun gwarchod cymdogaeth neu gynllun diogelwch cymunedol?