Llefydd i fyw

Mae’r rhan yma’n trafod adeiladau eich lle, y cyfleusterau sydd ar gael i bobl leol, a’r ddarpariaeth o ran tai.

Prif bwrpas ein trefi a’n cymunedau yw mai’r llefydd lle’r ydym yn byw ydyn nhw. Mae angen i’n llefydd ddarparu amrediad o wahanol dai i ystod eang o’r boblogaeth ar lefel y gall pobl ei fforddio. Gall hyn gynnwys tai rhent, tai cymdeithasol neu fforddiadwy, tai i brynwyr tro cyntaf, fflatiau, tai teuluol, tai hygyrch o ran mynediad, cartrefi symud i dŷ llai a chartrefi ymddeol. Mewn rhai llefydd, gallai diffyg tai newydd neu fforddiadwy neu ddiffyg tai yn y lle iawn arwain at gynnydd mewn prisiau gan atal pobl ifanc rhag prynu eu tŷ cyntaf. Mewn llefydd eraill, gallai diffyg cyflogaeth a chyfleoedd gwaith arwain at dai gwag neu bobl yn symud i ffwrdd. 

Mae’n hanfodol ystyried anghenion y gymuned yn y dyfodol a bod cartrefi newydd wedi eu dylunio’n dda, yn hygyrch ac yn lle iawn, ac o’r math, maint a deiliadaeth iawn i’r gymuned. Mae ansawdd cartrefi’n bwysig i hyrwyddo bywydau iach, diogel a hapus. Ar draws Cymru mae 18% o gartrefi mewn dosbarth ansawdd gwael quality.[1] Mae potensial aruthrol i uwchraddio cartrefi i gwrdd ag ymrwymiadau di-garbon Cymru. ‘Ôl-osod’ yw’r broses o welliannau arbed ynni a gosod technoleg ynni a gwresogi carbon isel newydd mewn tai i helpu i wneud cartrefi ar draws Cymru’n fwy ynni-effeithlon gan ostwng biliau a chreu llefydd iachach i fyw ynddynt. Ochr yn ochr â’r ymrwymiad hwn, mae angen ystyried lleoliad cartrefi a mynediad at y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd ei angen arnom bob dydd, drwy deithio llesol fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

[1] https://phw.nhs.wales/news/the-cost-of-poor-housing-in-wales/the-full-cost-of-poor-housing-in-wales/

  • Sut fath o farchnad dai sydd yn eich ardal? Sut y mae prisiau wedi newid? 

  • Sut fathau o ddeiliadaeth tai sydd yno? Ydy’r tai’n rhai perchen-feddianwyr neu’n dai rhent? Pa ganran sy’n ail gartrefi?

  • A oes cymysgedd o dai o ran maint a math?

  • A oes digon o gartrefi i gwrdd â’r galw? A oes ardaloedd sy’n ehangu neu sydd â thai gwag? 

  • Ble y mae’r tai yn eich ardal? A oes cynigion ar gyfer datblygiadau newydd ac os felly ble? Ydyn nhw wedi eu cysylltu’n dda i’r gymuned ehangach a’r tirlun?

  • Beth yw ansawdd y stoc dai yn eich ardal yn gyffredinol?