Llefydd i weithio

Mae llefydd o gwmpas Cymru’n dibynnu ar wahanol ddiwydiannau ar gyfer gwaith. Mae gan rai un prif gyflogwr, sector fel twristiaeth neu efallai sefydliad ‘angori’ fel ysbyty neu brifysgol, a bydd gan eraill ystod ehangach o gyflogwyr. Mae amaeth a choedwigaeth yn bwysig mewn ardaloedd mwy gwledig, gyda diwydiant, gweithgynhyrchu a’r sector gwasanaeth yn nodweddu llefydd mwy.

Meddyliwch am y mathau o gyflogaeth yn eich ardal a ble y maen nhw. Ceisiwch ddarganfod pwy a ble y mae’r cyflogwyr mwyaf. Sut y mae pobl yn teithio i’w gwaith, ydyn nhw’n cymudo i mewn neu allan o’r ardal? Gyda’r twf mewn gweithio o gartref, a oes cyfleusterau a gwasanaethau i gynorthwyo gweithio o bell a busnesau ‘newydd gychwyn’, fel gofod ar gyfer cydweithio a rhannu swyddfeydd a band-eang cyflym.

  • Ydy pobl yn teithio i’w gwaith neu’n gweithio’n lleol? Beth a ble y mae’r cyflogwyr yn eich ardal? Ym mha sectorau y mae pobl yn gweithio? Pa mor bell y maen nhw’n teithio?

  • A oes cyfleusterau i gynorthwyo busnesau newydd a / neu weithio o gartref? 

  • A oes gan eich cymuned gysylltedd band-eang da?

  • Ydy pobl yn cael trafferth dod o hyd i waith, neu ydy’r gwaith yn dymhorol? Faint o ddiweithdra sydd yn eich ardal?