Llefydd i siopa a rhedeg busnes

Gall siopau, caffis a bwytai ychwanegu at apêl a bywiogrwydd canol trefi a chanolfannau lleol, yn ogystal â chreu gwaith a darparu gwasanaethau defnyddiol i’r gymuned. Mae busnesau lleol yn cynnig rhywbeth unigryw’n ogystal â gwaith i ardal.

Meddyliwch am y siopa yn eich ardal, gan gynnwys mathau a maint y siopau ac a ydyn nhw’n annibynnol neu’n siopau cadwyn. Meddyliwch ble y mae pobl yn eich ardal yn mynd i siopa am bethau fel bwyd neu ddillad, a sut y maen nhw’n cyrraedd yno. Ydy’r siopa sydd ar gael yn eich ardal yn denu pobl o bellach i ffwrdd? 

  • Ble y lleolir y gwahanol fathau o siopau, caffis a bwytai? Ai siopau annibynnol neu siopau cadwyn mwy sydd yno’n bennaf? 

  • A oes gan eich lle ‘frand’ cryf? Sut bresenoldeb sydd ganddo ar y we? 

  • A oes yno siopau annibynnol neu siopau cadwyn mwy? 

  • Faint o bobl sy’n ymweld â’ch tref ar wahanol adegau o’r dydd?

  • A oes llawer o siopau gwag yn eich tref?

  • A oes galw am ofod ar gyfer busnesau newydd? A oes cefnogaeth i fusnesau newydd?