PROSIECT STRYD Y RHEILFFORDD, Y SBLOT, CAERDYDD

Yr her: Sut i ail-ddychmygu safle diffaith a’i droi’n ofod cymunedol aml-ddefnydd?

Signal Box Farm (Credit: Mud and Thunder)

Mae’r mudiad di-wneud-elw lleol Green Squirrel wedi bod yn gweithio gyda chymunedau Adamsdown a’r Sblot yng Nghaerdydd i drawsnewid tir diffaith yn ofod cymunedol ffyniannus. Caewyd y safle, oedd unwaith yn barc a maes chwarae, oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd wedi gordyfu a phobl yn dympio sbwriel yno. Gyda chymorth gan gynghorwyr lleol, gallodd Green Squirrel brynu’r tir a datblygu cynnig yn cynnwys adeilad wedi’i wneud o ddeunyddiau ailgylchu, podiau busnes i ddarparu gweithdai fforddiadwy, rhandir cymunedol ac ardal awyr agored er budd i fywyd gwyllt ar gyfer chwarae, gweithgareddau cymdeithasol ac ymweliadau gan ysgolion. Cymrodd dros 1200 o bobl o’r gymuned, 19 o fudiadau cymunedol a busnesau lleol ran yn y broses ymgysylltu i sicrhau bod y cyfleusterau’n iawn ar gyfer y gymuned. Mae’r syniad erbyn hyn yn cael ei droi’n realiti gyda chyllid gan Sefydliad y Co-op a Chynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mwy o wybodaeth yma: Gerddi'r Rheilffordd - Canolfan y Green Squirrel

Previous
Previous

LLAIS POBL Y GRYSMWNT

Next
Next

PAFILIWN Y GRANGE, GRANGETOWN