PAFILIWN Y GRANGE, GRANGETOWN

Image: Kyle Pearce

Yr her: Sut y gall cydweithrediad rhwng prifysgol a phobl leol drawsnewid hen bafiliwn?

Mae Pafiliwn y Grange, sydd wedi’i wobrwyo gan yr RSAW, yn ffrwyth deng mlynedd o gydweithrediad rhwng Prosiect Pafiliwn y Grange grŵp preswylwyr Grangetown, Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd a Grŵp Gweithredu Cymunedol Grangetown. Ar ôl sefydlu fel prosiect Pafiliwn y Grange, penderfynodd breswylwyr lleol bartneru â Phorth Cymunedol Prifysgol Caerdydd yn 2012 i lansio Ideas Picnics, diwrnodau digwyddiad a ‘phreswylfa’ tair blynedd yn yr adeilad gwag. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth a chreu perthynas â phreswylwyr lleol, grwpiau cymunedol a busnesau.

Yn dilyn cais llwyddiannus am grant o dan raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 y Loteri Genedlaethol, datblygwyd cais cynllunio ac achos busnes. Dan arweiniad y cwmni penseiri Dan Benham Architects a’r IBI Group, aeth y tîm dylunio ati i ddatblygu brîff dylunio drwy weithdai yn trafod syniadau a gynhyrchwyd gan y ‘preswylfeydd’.

Canlyniad hyn yw cyfleusterau cymunedol seiliedig ar weledigaeth, ac wedi eu rhedeg gan, y gymuned - gyda llefydd mewnol ac allanol braf a hyblyg a ddefnyddir gan amrywiaeth enfawr o unigolion a grwpiau lleol a chenedlaethol gan gynnwys The Hideout Café, Fforwm Ieuenctid, Marchnad Byd, grwpiau addysg, ffitrwydd a chymdeithasol i rai o bob oed, dosbarthiadau creadigol ynghyd ag ystod o weithgareddau addysgu ac ymchwil gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion.  

Mwy o wybodaeth yma: Astudiaeth achos: Creu cyfleusterau drwy arweiniad ac wedi eu rhedeg gan y gymuned - Comisiwn Dylunio Cymru

Previous
Previous

PROSIECT STRYD Y RHEILFFORDD, Y SBLOT, CAERDYDD

Next
Next

GRANGE PAVILION, GRANGETOWN