LLAIS POBL Y GRYSMWNT

Yr her: Sut y gall digwyddiad stondin godi helpu i gasglu hanesion a syniadau pobl leol?

Digwyddiad stondin godi oedd Shaping Grosmont a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod i hel tystiolaeth dros newid mewn pentref gwledig yn Sir Fynwy. Cafodd cynnwys y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Eglwys Corff Sant Niclas, ei guradu gan ymarferydd creadigol mewn cydweithrediad â phobl leol a wahoddwyd i weithdy cynllunio i drafod fformat a gweithgareddau ar gyfer y digwyddiad. Roedd yno gynrychiolwyr o BRO - Dyfodol Gwledig ac ymarferydd creadigol a fu’n arwain y gweithgareddau.

Cafodd Corff yr Eglwys ei redeg fel gofod galw heibio i bobl gael dysgu am hanes a threftadaeth y pentref a’r cyffiniau drwy ffilm a lluniau hanesyddol. Ar wahân i’r tîm, cafwyd cefnogaeth wych gan aelodau’r gymuned a fu’n helpu i greu a chasglu ar gyfer arddangosfa o luniau ac arteffactau hanesyddol a chyfrannu at weithgareddau’n ystyried y pentref heddiw a sut y bydd yn y dyfodol. O ganlyniad cafwyd ffocws ar ystyried a allai’r gymuned gymryd meddiant o neuadd y pentref a’i adnewyddu fel lle i ddod â’r gymuned at ei gilydd.

Mwy o wybodaeth yma: https://issuu.com/coombsjones/docs/190322_grosmont_report_draft

Previous
Previous

DYFODOL RHUTHUN

Next
Next

PROSIECT STRYD Y RHEILFFORDD, Y SBLOT, CAERDYDD