DYFODOL RHUTHUN

Yr her: Sut y gellir datblygu cynllun hirdymor ar sail ymgysylltu creadigol gan y gymuned?

Image: Coombs Jones / Ruthin Town Council

Dros y ddeng mlynedd diwethaf, mae Cyngor Tref Rhuthun wedi datblygu gweledigaeth i dywys datblygiad tref farchnad Gogledd Cymru i’r dyfodol. Yn dilyn ymgysylltu helaeth â’r cyhoedd a ddaeth i ben gydag Wythnos Dyfodol Rhuthun, sydd bellach yn wythnos flynyddol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus, cynigiodd gynllun 2012 gyfres o fân-brosiectau fforddiadwy i gael yr effaith fwyaf o’r gwariant lleiaf ynghyd â phrosiectau trawsnewid mwy hirdymor fydd angen cyllid a darparu mwy cymhleth. Yn 2018, edrychwyd o’r newydd ar y cynllun yn dilyn newid polisi, cyfuno asedau’r cyngor a phan ddaeth adeiladau pwysig yn wag. Nod y fframwaith diwygiedig oedd creu tref gryno, hawdd cerdded o’i chwmpas, gyda chartrefi newydd i brynwyr tro cyntaf a’r henoed i annog pobl o bob oed i fyw’n dda yng nghanol y dref. Gyda chymorth y gymuned a gweledigaeth greadigol, gallodd y cyngor tref weithredu prosiectau pwysig fel trosglwyddo asedau i’r gymuned ac ailwampio’r Hen Lys a’i droi’n ganolfan gymunedol sy’n cyfuno lle i gydweithio, cynnal digwyddiadau a rhoi gwybodaeth i dwristiaid.

Mwy o wybodaeth yma: Rhuthun ® Ruthin

Previous
Previous

TAFARN Y PLU, LLANYSTUMDWY, GWYNEDD

Next
Next

LLAIS POBL Y GRYSMWNT