TRIONGL MAENDY

Yr her: Sut y gallai cymuned Maendy, fel ardal canol dinas yng Nghasnewydd, ailagor a chynnal gwasanaeth toiledau cyhoeddus hanfodol?

Image courtesy of Maindee Unlimited

Roedd cau’r toiledau cyhoeddus ym Maendy yn 2017 yn ergyd i siopwyr a masnachwyr yn y ganolfan siopa leol, ac i bobl yn byw gerllaw. Fe waethygodd yr anghydraddoldeb gan greu anfantais i bobl sy’n dibynnu ar doiledau cyhoeddus, ac achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dechreuodd Maindee Unlimited, a’r penseiri KHBT, ar broses greadigol o ddatblygu syniadau dylunio. Roedd creadigrwydd yn allweddol i annog pobl leol i ymgysylltu, gyda safle a fu’n dirywio ers tro byd ac wedi’i effeithio gan argraffiadau negyddol o yfed ar y stryd a chyffuriau. Comisiynwyd artistiaid i greu digwyddiadau a phrosiectau ar y safle er mwyn datblygu cysylltiadau positif, atgofion newydd o’r lle, ac i ehangu’r argraff a beth a allai fod yn bosib. Arweiniodd hyn maes o law at drosglwyddo’r safle o ddwylo Cyngor Dinas Casnewydd i Maindee Unlimited gan sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol i greu caffi cymunedol wedi’i lwyr adnewyddu a’i dirlunio, gardd gymunedol, a thoiled cyhoeddus.

Mwy o wybodaeth yma: Astudiaeth Achos: Triongl Maendy, Casnewydd - Comisiwn Dylunio Cymru

Previous
Previous

EIN TREF, EIN CYNLLUN! CYNLLUN LLE Y DRENEWYDD A LLANLLWCHAEARN

Next
Next

PLAS CARMEL, ABERDARON, GWYNEDD