PLAS CARMEL, ABERDARON, GWYNEDD

Yr her: Sut y gallai capel, tŷ, siop a gardd gael eu hailwampio’n safle treftadaeth cynaliadwy?

Capel Carmel, Aberdaron - Credit: Dylan Arnold 

Fel prosiect cymunedol i adfer ac adfywio Capel Carmel a’r hen siop yn Anelog, Siop Plas, nod y gwaith ailwampio oedd gwneud defnydd sensitif o’r capel, tŷ, siop a gardd gan greu safle treftadaeth a diwylliannol cynaliadwy sy’n rhoi ail wynt i’r gornel wledig yma o Ben Llŷn. Gan weithio ar un adeilad ar y tro, hyd yma mae’r prosiect wedi dod â thrydan i’r safle a hefyd wedi datblygu gwaith tirlunio, lle parcio a dehongli, yn ogystal â chynnal dosbarthiadau a gweithdai. Yn 2020 dechreuodd ar y gwaith o adfer Siop Plas, siop a oedd yn ei hanterth yn fan cyfarfod a chanolfan gymdeithasol i’r ardal.

Mwy o wybodaeth yma: https://www.plascarmel.cymru/ 

Previous
Previous

TRIONGL MAENDY

Next
Next

TAFARN Y PLU, LLANYSTUMDWY, GWYNEDD