EIN TREF, EIN CYNLLUN! CYNLLUN LLE Y DRENEWYDD A LLANLLWCHAEARN

Yr her: Sut i gynhyrchu cynllun hirdymor i gael ei fabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol?

© Newtown & Llanllwchaiarn Place Plan

Cafodd Cynllun Lle y Drenewydd a Llanllwchaearn ei ddatblygu gyda’r gymuned leol rhwng 2019-2021, i gyflwyno gweledigaeth y dref ar gyfer y 15 mlynedd hyd at 2036. Bu’r Cyngor Tref yn gweithio gyda Cymorth Cynllunio Cymru, y Place Studio a thîm Polisi Cynllunio Cyngor Sir Powys. Mae’r cynllun a’r prosiectau y mae’n eu cynnig yn seiliedig ar syniadau a barn pobl o’r gymuned. Cafodd dros 7,000 o sylwadau eu gwneud gan breswylwyr drwy ddigwyddiadau rhanddeiliaid, digwyddiad Cyngor Ysgol, arolwg cyhoeddus a sesiynau galw heibio. Cafodd y Cynllun Lle ei fabwysiadu gan Gyngor Sir Powys fel Canllawiau Cynllunio Atodol yn 2021.  

Mwy o wybodaeth yma: Newtown-Place-Plan-V5-Adopted-26.7.21.pdf

© Newtown & Llanllwchaiarn Place Plan

Next
Next

TRIONGL MAENDY