Natur a bioamrywiaeth

Dengys ymchwil mai’r agosaf at natur ydym ni fel pobl, yr hapusaf ydym ni, y mwyaf gwerth chweil y teimlwn yw bywyd a’r mwyaf y deallwn ein perthynas â’r byd naturiol.[1] Mae bioamrywiaeth, sy’n disgrifio amrywiaeth yr holl fywyd ar y ddaear, yn hanfodol i’n goroesiad gan roi i ni aer, dŵr, storfeydd carbon ac atal llifogydd. Fodd bynnag, ers 1970 mae rhywogaethau wedi dirywio o 60% ar draws y byd[2].

O dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n ofynnol i gynghorau gynnal a gwella gwydnwch ecosystemau ac o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, dylai Cymru fod yn “genedl sy’n cynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau sy’n gweithio’n iach ac yn cyfrannu at wydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r capasiti i addasu i newid.”

Pa wahanol fathau o gynefin sydd yn eich ardal? Pwy a beth sy’n byw yn eich lle, yn bobl a chreaduriaid? Pwy a allai fod â gwybodaeth am y bywyd gwyllt yn eich ardal? A allwch ddod o hyd i grwpiau neu fudiadau sy’n gwybod am y bywyd gwyllt yn eich ardal?

  • A oes unrhyw brosiectau Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt neu raglenni bywyd gwyllt penodol yn eich ardal?

  • A oes unrhyw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu warchodfeydd natur?

  • A oes gan eich ardal rywogaethau gwarchodedig o ryw fath? Blodau, madarch, adar, er enghraifft?