Gwerthuso eich canfyddiadau
Erbyn hyn bydd gennych gryn dipyn o wybodaeth am eich cymuned a’i hamgylchedd ond beth ydych wedi’i ddarganfod, beth y mae’n ei olygu a beth y mae pobl eraill yn ei feddwl?
Un ffordd syml o gyfuno a gwneud synnwyr o’r wybodaeth yr ydych wedi’i hel yw drwy wneud dadansoddiad SWOT. Mae’n ffordd hawdd o werthuso eich lle o dan bedwar pennawd:
Cryfderau: beth sy’n llwyddiannus a beth sy’n gwneud i’ch lle sefyll allan?
Gwendidau: beth sydd ar goll, yn aflwyddiannus neu y gellid ei wella, neu beth sy’n rhoi eich lle o dan anfantais?
Cyfleoedd: pa gyfle sydd i newid pethau neu a oes unrhyw ffactorau allanol a allai gynnig cyfle i wneud gwelliannau?
Bygythiadau: a oes unrhyw beth sy’n andwyol i lwyddiant neu gymeriad eich lle neu a allai effeithio ar ei gyfleoedd i wella? A ellir gwneud unrhyw beth i ddatrys neu ddileu’r pethau hyn?
Mae’n bwysig bod eich dadansoddiad SWOT yn cynnwys eich tîm cyfan ac yn adlewyrchu canlyniad eich gweithgareddau ymgysylltu cymunedol. Gellir rhoi sylw i’r cyfleoedd a gyflwynir mewn amrywiol ffyrdd: fel prosiectau paratoi a allai oleuo’r gwaith o ddatblygu eich cynllun (er enghraifft, dadansoddiad traffig neu arolwg ynni cymunedol), fel rhan o’ch gweledigaeth neu fel mesurau mewn golwg i weithio tuag atynt yn y dyfodol. Bydd y broses SWOT yn eich helpu i wyntyllu syniadau ar gyfer y dyfodol sy’n seiliedig ar eich tystiolaeth.
Cwestiynau i’w gofyn:
Sut y gallwn adeiladu ar ein cryfderau?
Sut y gallwn wella ein gwendidau?
Sut y gallwn fanteisio ar gyfleoedd, heddiw ac yn y dyfodol?
Sut y gallwn roi sylw i bob bygythiad?
Cymharu eich lle
Mae’n bwysig edrych ar eich lle yng nghyd-destun y llefydd eraill yn eich ardal. Gall hyn eich helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a sicrhau bod gan lefydd cyfagos weledigaethau a chynlluniau cydnaws ar gyfer y dyfodol.
-
• Edrychwch ar y gydberthynas rhwng trefi Cymru: Deall Lleoedd Cymru
• Gall Gefeilldrefi fod yn ffordd effeithiol o ddeall mwy am lefydd eraill a chryfhau capasiti: Journeys of Understanding: Domestic twinning as an approach to improving town capacity and wellbeing - Carnegie UK Trust
Cwestiynau i’w gofyn
Beth yw’r berthynas rhwng eich lle chi a’r llefydd sydd o’i gwmpas? Ydych chi’n cydweithredu neu a oes cystadlu cyfeillgar?
Beth sydd yr un fath â’r llefydd cyfagos, a beth sy’n unigryw?
Beth yw eich pwynt gwerthu unigryw?
A oes llefydd eraill yn lleol, cenedlaethol neu’n rhyngwladol gyda blaenoriaethau tebyg?