Sefydlu Tîm eich Cynllun

Mae Tîm Cynllun yn hanfodol i ddatblygu eich cynllun a’i droi’n llwyddiant. Grŵp o bobl gyda gweledigaeth yw’r rhain sy’n gyfrifol am gydlynu llais y gymuned, hel tystiolaeth, tywys y broses, gweithio gyda rhanddeiliaid ac ymgynghorwyr, gyrru syniadau yn eu blaenau a helpu i gyflawni dyheadau’r prosiect drwy weledigaeth ac amcanion cyffredin.  

Gallai Tîm eich Cynllun ddod o bartneriaethau llwyddiannus a sefydlwyd eisoes, neu’n bobl hollol newydd. Dylai fod ar agor i bawb a chynnwys pobl sydd ag ystod eang o brofiad ac arbenigedd, yn ogystal â bod yn gynrychiadol o’ch cymuned.

Yn aml iawn bydd pobl leol sy’n teimlo’n gryf ac angerddol a allai fod neu sydd eisoes yn ‘bencampwyr’ i’r dref, ac sy’n awyddus i chwarae rôl mewn materion lleol, gyda chysylltiadau eang ac yn teimlo’n gryf am ble y maen nhw’n byw. I sicrhau yr adlewyrchir dyheadau pawb, bydd angen i dîm eich cynllun gynnwys trawsdoriad o’r gymuned, er enghraifft o ran oed, tarddiad ethnig a rhywedd. Gallech ofyn i breswylwyr a busnesau lleol, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, a thirfeddianwyr.

Gall adnabod y pwrpas, aelodaeth, rolau a chyfrifoldebau, trefniadau gweithio, patrwm cyfarfodydd a phrosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau, i gyd helpu i gyd-gyfuno tîm a sicrhau bod aelodau yn gwybod beth yw eu rôl. Bydd ymddangos yn broffesiynol yn cryfhau eich llais a’ch effaith yn eich ardal. Mae taflenni, posteri, brandio a negeseuon unffurf yn bwysig a dylid ystyried sut i gyfathrebu â’ch tref o’r dechrau un. Cofiwch gofnodi cofnodion cyfarfodydd a phawb sy’n bresennol.  

Wrth ystyried tîm eich cynllun, meddyliwch am y cwestiynau canlynol:  

  • Pa mor gynrychiadol yw’r grŵp o’i gymuned a’i busnesau?

  • Pa mor aml fyddwch chi'n cyfarfod? 

  • Beth yw rôl a chyfrifoldeb pob aelod o’r tîm? Pa sgiliau sydd gennych? Pa sgiliau sydd ar goll? 

  • Sut fyddwch chi’n cyfathrebu â’ch gilydd a gyda’r gymuned ehangach? 

  • Beth fydd ardal a therfynau / ffiniau’r Cynllun Lle?  

  • A oes cymunedau cyfagos sy’n gwneud ymarferion tebyg?  

Gweithio gyda’ch cynghorau lleol a’r awdurdod lleol

Bydd cael y cymorth, cyngor a’r sgiliau iawn yn helpu i wneud y mwyaf o’ch syniadau.

Mae’n syniad da i’ch grŵp greu perthynas gyswllt neu fod mewn cysylltiad â’r Cyngor Tref / Cymuned a chynnwys o leiaf un Cynghorydd. Bydd y cyswllt hwn yn helpu i ddatblygu’r cynllun, yn enwedig os yw’r cynllun yn cynnwys darparu gwasanaethau a chyfleusterau lleol oherwydd mae gan Gynghorau Tref a Chymuned rywfaint o gyfrifoldeb statudol i gyflawni rhai swyddogaethau. 

Gallai fod yn berthnasol gwahodd partneriaid eraill i fod yn rhan o Dîm y Cynllun. Gallai partneriaid posib gynnwys Cymdeithasau Tai, Partneriaethau Diogelwch / Heddlu, Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyflogwyr lleol, grwpiau cynaliadwyedd a mudiadau cymunedol.