TAFARN Y PLU, LLANYSTUMDWY, GWYNEDD
Yr her: Sut i ail-bwrpasu capel a thafarn wag er budd y gymuned?
Image: Tafarn Y Plu
Pan ddaeth y dafarn 200 mlynedd oed yn Llanystumdwy ar werth yn 2015, camodd y gymuned leol i’r adwy. Gyda chyllid torfol, llwyddodd menter gymunedol Menter y Plu i brynu’r adeilad. Mae Tafarn y Plu bellach yn dafarn gymunedol sydd hefyd yn darparu gwasanaethau cymunedol. Yn ddiweddar, llwyddodd y grŵp i brynu ac adnewyddu’r capel drws nesaf a’i droi’n llety gwyliau, er budd y gymuned.
Mwy o wybodaeth yma: https://menteryplu.wordpress.com/