Treflun

Townscape_Orange.jpg

Gan eich bod bellach wedi dysgu am eich tref yn ei thirwedd, mae'n amser i astudio adeiledd mewnol a golwg eich tref, ei hadeiladau a'i lleoedd gwag a sut mae wedi   tyfu a datblygu.

View this page in English

 

Byddwch yn meddwl am gymeriad eich tref a'i hymdeimlad o le. Cymeriad lle yw ei awyrgylch cyffredinol ac mae hwn yn greiddiol i'r hyn sy'n gwneud trefi bychain yn unigryw – nid oes gan ddau le'r un awyrgylch. Caiff cymeriad ei greu gan amrywiaeth eang o ffactorau: hanes, twf, ffurf tref, deunyddiau, manylion, lliwiau a gweadau.

“Mater o bryder arbennig yw erydiad cymeriad unigryw trefi, boed drwy golli manwerthwyr annibynnol, colli economi gymysg, colli manylion hanesyddol (fel blaenau siopau, canopïau, palmantau traddodiadol ac ati), a'r dirywiad mewn sgiliau adeiladu traddodiadol.” [1]

 

Treftadaeth a Hanes

Mae gan y rhan fwyaf o drefi hanes hir ac amrywiol, gyda chyfnodau o dwf a dirywiad wrth i'w tynged newid.  Gall deall gorffennol eich tref helpu i hysbysu eich gweledigaeth ar gyfer ei dyfodol.  Nid dim ond adeiladau a lleoedd gwag eich tref fydd yn dweud wrthych am eu treftadaeth, ond llên gwerin, myth a diwylliant hefyd.  Mae astudio gwybodaeth a hanes lleol yn gamau pwysig yn yr ymchwil i'r hyn sy'n gwneud eich tref yn unigryw.  Siaradwch â phobl leol am hanes y dref, am eu storïau a'u profiadau o'ch tref.

Man cychwyn da yw casglu mapiau hanesyddol – bydd astudio mapiau o wahanol gyfnodau yn eich helpu i weld sut mae eich tref wedi esblygu i'w ffurf bresennol.  Mae rhai mapiau ar gael ar-lein, ond bydd llawer yn eich archifau neu swyddfeydd cofnodion lleol.  Ceisiwch adnabod patrymau adeiladu a chamau twf.

Mae gan lawer o drefi Ardaloedd Cadwraeth, “ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae'n ddymunol cadw neu wella eu cymeriad neu eu golwg”. [2]  Mae dros 9,000 o Ardaloedd Cadwraeth yn y DU, gyda mwy yn cael eu hychwanegu at y rhestr. Gellir hefyd rhestru adeiladau unigol, safleoedd neu dirweddau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae hyn yn diogelu'r diddordeb arbennig, ac yn golygu bod rhaid i'ch Awdurdod Lleol archwilio unrhyw newid neu waith adfer yn ofalus i sicrhau bod natur unigryw'r adeilad yn cael ei gynnal a'i wella.  Mae gwybodaeth am Ardaloedd Cadwraeth ac adeiladau rhestredig ar gael yn hawdd ac mae'n arwydd da o bwysigrwydd hanesyddol eich tref.  Gellir cael mwy o wybodaeth gan Cadw, haneswyr a chymdeithasau dinesig lleol a Swyddogion Cadwraeth Awdurdodau Cynllunio Lleol.

Cwestiynau i'w gofyn:

  • Beth yw hanes eich tref?
  • A oes ganddi gysylltiadau neu ddigwyddiadau enwog?
  • Pa storïau gellir eu hadrodd?
  • Ble mae'r adeiladau hanesyddol?
  • Pa mor hen ydynt?
  • A oes ynddi Ardaloedd Cadwraeth neu adeiladau rhestredig?

Rhestr wirio:

  • Deallwch darddiad eich tref
  • Edrychwch ar fapiau hanesyddol i weld sut mae eich tref wedi esblygu
  • Casglwch hanes lleol, chwedlau, storïau, atgofion a digwyddiadau
  • Casglwch wybodaeth am Ardaloedd Cadwraeth ac adeiladau rhestredig a mapiwch ble mae'r rhain

 

Ffurf a Gosodiad y Dref

Ar ba ffurf mae eich tref?  Pam mae wedi ei gosod fel hyn?

Ychydig iawn o drefi oedd yn bodoli yng Nghymru cyn goresgyniad y Normaniaid.  Daeth sefydlu trefi marchnad canoloesol i'w anterth yn y 12fed a'r 13eg ganrif, tra cafodd trefi diweddarach eu sefydlu o gwmpas diwydiant a masnach.  Mae trefi'n datblygu ffurfiau nodweddiadol sy'n gysylltiedig â'u safle a'r rheswm am eu sefydlu.  Ceir pedair prif ffurf ar drefi yn gyffredin

  • Trefi llinol: Roedd trefi a adeiladwyd ar hyd tramwyfeydd yn datblygu ffurf linol, yn aml gyda dim mwy nag un rhes o dai bob ochr i'r stryd fawr
  • Trefi clwstwr: Datblygodd trefi sydd wedi'u hadeiladu o gwmpas marchnadfeydd neu adeiladau pwysig, fel cestyll, ar ffurf niwclear.  Mae Rhuthun yn enghraifft o hyn  Yn yr achosion hyn, mae ffyrdd yn aml yn arwain at y canolbwynt canolog gydag adeiladau mewn clwstwr o'i gwmpas
  • Trefi cynlluniedig: Mae rhai trefi wedi cael eu cynllunio yn eu cyfanrwydd, er enghraifft trefi caerog fel Caernarfon neu drefi diwydiannol cynnar.  Yn aml mae'r trefi hyn ar ffurf grid sydd wedi ei addasu i gydweddu â'r dirwedd
  • Cyfuniad: Mae gan rai trefi gyfuniad o'r ffurfiau hyn, neu gall gwahanol ffurfiau ddigwydd mewn gwahanol rannau o'r dref.  Yn aml mae'r rhain yn drefi sydd wedi gweld twf sylweddol

Gellir darllen y camau datblygu hyd at heddiw ar hyd yr oesoedd drwy oedran yr adeiladau a phatrymau stryd.  Mae ehangu neu gau diwydiant, newidiadau i amaethyddiaeth, dyfodiad tollffordd, tyrpegau, ffyrdd osgoi a thraffyrdd, effaith y ddau ryfel byd, ehangiad trefi yn yr  20fed ganrif a thwf neu ddirywiad twristiaeth, bob un wedi cael effaith ar ein trefi.

Mae dwysedd adeiladau wedi cael effaith ar awyrgylch lle.  Mae gan rai trefi hanesyddol ganol dwys iawn, gydag ond ychydig fylchau rhwng adeiladau.  Yn nodweddiadol roedd lleiniau canoloesol yn gul ac yn hir gyda defnydd cymysg – byw, gweithio a thyfu bwyd i gyd ar un darn o dir.  Mae tai teras Sioraidd a Fictoraidd yn ffurfio ymyl cryf ar hyd y stryd, gyda ffenestri bae a phyrth yn darparu cerfwedd.  Mae gan ddatblygiadau maestrefol ddwysedd llawer is ac fe'u nodweddir gan dai sengl neu dai pâr gyda gerddi blaen a chefn a mannau parcio ar eu tir.  Mae'r ymdeimlad o fod yn gaeedig yn y stadau hyn yn teimlo'n wahanol iawn i ganol trefi.

Mewn llawer o drefi, mae'r datblygiad dros y 30 mlynedd diwethaf wedi arwain i ddatblygiad preswyl a manwerthu ar y cyrion, gyda ffyrdd newydd yn eu cysylltu â chanol y trefi.  Yn aml, lleolir datblygiadau fel uwchfarchnadoedd ac unedau manwerthu i ffwrdd oddi wrth ganol trefi.  Gan fod angen arwynebedd llawr mawr a meysydd parcio mawr arnynt, mae ymylon trefi'n ddelfrydol ar gyfer y datblygiadau hyn. Tra'u bod yn dod â buddion siopa cyfleus a chyflogaeth, gall uwchfarchnadoedd ddenu siopwyr a'u pyrsiau oddi wrth y stryd fawr.

Cwestiynau i'w gofyn:

  • Ble mae canol eich tref?
  • A dyfodd o gwmpas un prif adeilad, er enghraifft castell, marchnad, adeilad diwydiannol neu eglwys?
  • Beth yw patrwm y datblygiad – a yw'n llinol ar hyd dyffryn, mewn clwstwr o gwmpas croesffordd neu farchnad, neu ai blerdwf ydyw? Pa mor ddwys yw'r dref?
  • A ydyw'r holl ffyrdd yn arwain at y canol?
  • Sut mae llwybrau'n croesi'r topograffi a'r cyrsiau dŵr?
  • A gafodd rheilffyrdd neu gamlesi unrhyw effaith ar y dref?
  • Beth sydd wedi digwydd yn ystod yr 20fed a'r 21ain ganrif?
  • A ychwanegwyd at y dref yn raddol neu mewn blociau? Ble mae'r tai newydd, cyflogaeth a manwerthu wedi'u lleoli?

Rhestr wirio:

  • Nodwch ganol eich tref
  • Nodwch y patrymau adeiladu a datblygu sy'n ffurfio eich tref: a ydyw'n dref linol, mewn clwstwr, yn gynlluniedig neu'n gyfuniad?
  • Lleolwch ddatblygiadau newydd a safleoedd datblygu yn y dyfodol

 

Adeiladau a Graddfa

Craffwch ar yr adeiladau sy'n ffurfio eich tref.  Mae gan lawer o drefi gymeriad unigryw a ddiffinnir gan ganrifoedd o adeiladu ac ailadeiladu, adnewyddu, newid ac esblygu.  Caiff cymeriad ei gyfoethogi gan ddwysedd, strydoedd defnydd cymysg a phensaernïaeth frodorol a adeiladwyd gan ddefnyddio deunyddiau a gyrchwyd yn lleol.

Mae'r adeiladau a'r lleoedd gwag sy'n ffurfio adeiledd eich tref yn cyflwyno cyfres o drefluniau a welir o wahanol fannau ffafriol yn y dref.  Un o'r camau cyntaf tuag at ddeall treflun yw adnabod yr elfennau allweddol sy'n diffinio cymeriad eich tref.  Bydd hyn yn eich helpu i nodi ardaloedd sydd angen eu gwella neu eu hadfywio.

Tra bod yr adeiladau bob dydd mewn llawer o drefi yn dueddol o fod yn ddigon tebyg, efallai mai'r ffordd orau o weld cymeriad tref yw drwy ei hadeiladau tirnod.  Yn aml mae eglwysi, neuaddau trefi, ysgolion, llyfrgelloedd ac adeiladau cyhoeddus eraill yn unigryw ac maent yn cynrychioli balchder dinesig y dref.  Yn aml gwelir mynegiant unigryw o rwysg a phŵer yn yr adeiladau mwyaf adnabyddus, gan greu'r olygfa ‘llun cerdyn post’ gofiadwy o'r dref.  Byddwch wedi sylwi yn barod pa adeiladau mawr sy'n weladwy o'r tu allan i'r dref a pha rai sy'n sefyll allan ar y gorwel.

Mae'r newid mewn graddfa rhwng yr adeiladau uchel, mawreddog yn y canol a'r amgylchoedd preswyl ar raddfa lai yn ychwanegu at gymeriad tref a'i hymdeimlad o le.  Mae graddfa lleiniau adeiladu a lled y ffryntiadau yn cyfrannu at y treflun.  Mae cymysgedd eang o swyddogaethau mewn unedau bach niferus yn annog gweithgaredd a masnach wrth fynd heibio. Gallech fesur hyn drwy gyfrif y nifer o adeiladau i bob 100m o stryd: mae 15-20 o unedau'n cynrychioli stryd brysur, tra bod 0-5 o unedau'n awgrymu strydlun segur a diflas.  Mae ffenestri, gwead a manylion yn ychwanegu mwy o ddiddordeb ac yn creu ymyl “meddal”, tra bod lloriau isaf solet gydag ychydig ffenestri a drysau a dim cerfwedd o ran lliw neu wead yn creu ymyl “caled” sy'n ddigroeso i gerddwyr. [3]

Gall adeiladau mwy newydd fewnlenwi bylchau yn eich tref, neu gallant fodoli ddim ond mewn stadau tai newydd, parciau manwerthu a busnes a chanolfannau gwaith ar ymylon eich tref.  Yn yr enghreifftiau gorau, mae'r datblygiadau hyn yn tynnu eu hysbrydoliaeth o'u hamgylchoedd, gyda dyluniadau o ansawdd uchel sy'n ymateb i'w lle.  Mewn enghreifftiau gwael, gallai'r adeiladau newydd hyn ymddangos “fel pe gallent fod yn unrhyw le”.

Cwestiynau i'w gofyn:

  • Pa fath o adeilad a geir yn eich tref?
  • Beth yw'r prif adeiladau cyhoeddus a thirnodau, a ble maen nhw?
  • Ble mae'r adeiladau mwyaf ac uchaf?
  • A oes gwahaniaethau unigryw rhwng gwahanol rannau o'ch tref?  Beth allai fod y rhesymau am hyn?
  • Pa mor dda yw'r gofal am yr adeiladau?
  • Edrychwch tuag i fyny – beth sydd uwchben lefel y stryd?
  • Sawl adeilad sydd yno i bob 100m?  A oes gan y strydoedd ymylon caled (waliau) neu ymylon meddal (perthi, rheiliau)?
  • Pwy sy'n berchen ar yr adeiladau?

Rhestr wirio:

  • Mapiwch yr adeiladau allweddol, yn cynnwys eglwysi, capeli, neuaddau trefi, cestyll, institiwtau, ac ysgolion
  • Ystyriwch yr adeiladau newydd
  • Mapiwch raddfa ac uchder yr adeiladau
  • Nodwch ardaloedd sydd ag ymylon “meddal” a “chaled”

 

Deunyddiau a Manylion

Edrychwch yn fwy manwl:  Pa fanylion, lliwiau a gweadau sy'n rhoi ei chymeriad unigryw i'ch tref?  Heddiw, caiff tai eu gorffen mewn amrywiaeth eang o ddeunyddiau, yn cynnwys brics, rendrad, pren a theils.  Gallai adeiladau pwysig, fel eglwysi, capeli, neuaddau trefi a chartrefi'r trigolion cyfoethog sefyll allan trwy ddefnyddio deunyddiau gwahanol neu ddangos crefftwriaeth o safon uwch.  Fel rheol byddai trefi canoloesol a diwydiannol yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau oedd ar gael yn hwylus o fewn cyrraedd hawdd i'r dref.  Yn nodweddiadol roedd gwaith adeiladu canoloesol yn defnyddio cerrig neu bren, cyn i'r defnydd o frics gynyddu yn y cyfnod Sioraidd.  Yn aml mae tai Fictoraidd wedi eu hadeiladu o frics neu gerrig ac ers hynny mae rhai tai wedi eu gorchuddio â gro chwipio.

Mae defnyddio deunyddiau sydd ar gael yn lleol neu balet diffiniedig o liwiau a gweadau – er enghraifft, y cerrig llwyd tywyll a'r llechi sy'n nodweddiadol o Ddolgellau – yn rhoi ymdeimlad cyffredinol o undod.  Gall manylion bach helpu i greu ymdeimlad unigryw o le a chymeriad cryf.  Mewn trefi diwydiannol, mae stoc tai tra unffurf wedi cael ei bersonoli trwy siliau ffenestr lliwgar, gerddi unigol, adeiladau bach, ac eiddo wedi ei osod yn y golwg. Yn Aberaeron, mae'r defnydd mentrus o liw ar dai unigol yn creu hunaniaeth gref sy'n gwahaniaethu'r dref oddi wrth eraill.  Yn yr un modd, yn Aberdâr, mae cadwraeth y blaenau siopau a'r arwyddion Fictoraidd gyda'u manylion gofalus yn creu hunaniaeth nodweddiadol.

Cwestiynau i'w gofyn:

  • Pa ddeunyddiau a ddefnyddir yn eich tref (cerrig, llechi, pren, rendrad, gro chwipio, coblau)?
  • A oes un deunydd sy'n fwy cyffredin na'r lleill?
  • Sut caiff deunyddiau eu defnyddio?
  • Pa liwiau a gweadau sydd yn eich tref?
  • Beth yw'r manylion neu addurniadau sy'n gwneud eich tref yn unigryw?

Rhestr wirio:

  • Casglwch enghreifftiau o ddeunyddiau adeiladau, gweadau a lliwiau nodweddiadol
  • Mapiwch ble caiff y deunyddiau eu defnyddio
  • Nodwch fanylion unigryw o gwmpas y dref

Ceisiwch ysbrydoliaeth gan...  Astudiaethau Nodweddu Cadw

Mae Cadw wedi bod yn datblygu dull o asesu trefi yng Nghymru sy'n anelu at ddangos beth sy'n rhoi ei hunaniaeth unigryw i le a darparu asesiad sylfaen o'i werth a'i gymeriad.  Nod y gwaith yw sicrhau bod strategaethau cynllunio ac adfywio yn y dyfodol yn cryfhau nodweddion unigryw lleol trwy nodi beth sy'n gwneud tref yn arbennig.

 

Am fwy o wybodaeth…

Cadw – Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.  Mae eu gwefan yn cynnwys astudiaethau nodweddu ar gyfer nifer o drefi yng Nghymru.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru – Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NMRW), y casgliad cenedlaethol  o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru.

Knowing Your Place – canllaw gan English Heritage i ddeall treftadaeth fel rhan o gynllun a arweinir gan y gymuned.

Mapiau a Data Hanesyddol:

Rhwydwaith Archifau Cymru

old-maps.co.uk

 

Dechreuwch Astudio...  Strydlun

 

 

[1] Heritage Lottery Fund, Wales, quoted in National Assembly for Wales Enterprise and Business Committee: Regeneration of town centres p31

[2] Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990

[3] Further consideration is given to this topic in Jan Gehl, ‘Cities for People’ p75