Tirwedd

Landscape_teal.jpg

Efallai nad ydych yn sylweddoli hyn, ond mae gan eich tref gysylltiad agos â'r dirwedd sy'n ei hamgylchynu.  Mae trefi'n darparu diwydiant, gwasanaethau, cyflogaeth a marchnadoedd ar gyfer eu cefnwlad, ac maent yn dibynnu ar y rhai hynny sy'n byw y tu hwnt i ffiniau'r dref ar gyfer masnach, deunyddiau a chynnyrch.  Gellir darllen economeg, gwleidyddiaeth a diwylliant yn y perthi, waliau, caeau, ffermydd a'r trefi sy'n ffurfio rhanbarth.  Gellir adnabod llawer o drefi'n hawdd drwy'r olygfa oddi wrth yr amgylchoedd.

 

View this page in English

 

Tirwedd a Setio

Ym mha ffyrdd mae'r topograffi a'r adnoddau naturiol lleol wedi llunio hunaniaeth eich tref? Pam mae eich tref ble mae hi?

Yn y canol oesoedd, lleolwyd trefi ar lechweddau dyrchafedig at ddibenion amddiffyn, neu er mwyn rheoli llwybrau neu groesfannau afon pwysig.  Yn y cyfnod diwydiannol, byddai trefi'n aml yn cael eu hadeiladu'n agos at adnoddau y gellid eu datblygu, fel glo neu fetelau gwerthfawr.  Gallwch ddarllen hanes eich tref drwy ei lleoliad a'i pherthynas â'r tir.  Ystyriwch sut mae'r rhanbarth wedi cael ei llunio gan y dref ac i'r gwrthwyneb.

Cwestiynau i'w gofyn:

  • A yw'r dref ar ben bryn, ar lechwedd, neu ar lawr dyffryn?
  • A oes afon, arfordir, camlas neu gwrs dŵr arall?
  • A ydyw daeareg wedi hysbysu lleoliad neu gynllun y dref?
  • A oes Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol neu ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o gwmpas y dref?
  • A welir patrymau caeau neu ddefnydd tir unigryw o gwmpas y dref?
  • A yw'r dref wedi ei hamgylchynu gan dir âr, ffermio tiroedd pori, neu ddiwydiant?
  • A oes pentrefi pellennig neu a ydyw'n rhan o ardal adeiledig fawr?
  • Ym mha ffyrdd mae'r dirwedd wedi newid gydag amser?

Rhestr wirio:

  • Disgrifiwch leoliad naturiol y dref
  • Mapiwch y nodweddion tirwedd a'r defnydd tir sy'n amgylchynu'r dref
  • Nodwch gyrsiau dŵr ac arfordiroedd

 

Am fwy o wybodaeth:

Cyfoeth Naturiol Cymru – Mae Mapiau Rhyngweithiol Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar gael am ddim a gallant ddarparu gwybodaeth gefndirol ar gyfer eich astudiaeth.  Mae'r rhain yn cynnwys Landmap, sy'n asesu amrywiaeth y dirwedd ar draws Cymru, a'r map ar-lein Awyr Agored Cymru a mapiau o safleoedd gwarchodedig

 

Golygfeydd a gorwel

Sut olwg sydd ar eich tref o'r tu allan? Beth allwch chi ei weld pan fyddwch yn y dref?

Un o nodweddion trefi bychain yw'r cyferbyniad rhwng yr anheddiad trefol a'r dirwedd amgylchynol, a'r golygfeydd mae hyn yn eu creu; p'un ai fod y dref yn cael ei hamlinellu yn erbyn yr awyr neu'n weladwy yn erbyn cefnlen o dirwedd ddramatig.  Yn aml mae'r cyfryw olygfeydd yn golygu bod y dref yn hawdd ei hadnabod.  Beth fydd ymwelydd yn gweld wrth iddynt gyrraedd eich tref?  Ystyriwch y gwahanol olygfeydd o'ch tref wrth i chi symud o'i chwmpas i wahanol fannau ffafriol.  A oes adeiladau uchel, amlwg sy'n ychwanegu elfen o ddrama at y gorwel, fel meindyrau eglwysi neu orthwyr cestyll?  Mae toeon yn elfen hanfodol ac mae eu gogwydd, eu deunyddiau a'u hamrywiadau mewn uchder yn ychwanegu amrywiaeth at yr olygfa o'r dref.

Cwestiynau i'w gofyn:

  • Ble mae'r lleoedd gorau i gael golygfeydd o'r dref? Beth ydych chi'n ei weld?
  • A oes tirnodau unigryw y gellir eu gweld o'r amgylchoedd?
  • Pa effaith mae toeon y dref yn ei chael?
  • A allwch chi weld y dirwedd amgylchynol o du mewn i'r dref?

Rhestr wirio:

  • Marciwch ar fap ble mae'r golygfeydd allweddol o'r dirwedd a welir o'r dref
  • Mapiwch y golygfeydd allweddol o'r dref a welir o'r dirwedd
  • Nodwch yr adeiladau amlwg y gellir eu gweld o'r amgylchoedd
  • Disgrifiwch y dirwedd doeon os yw hon yn bwysig

 

Ymylon

Mewn rhai trefi, mae'r ffin rhwng y dref a'r wlad yn sydyn iawn, tra mewn eraill ceir datblygiad llai dwys o gwmpas yr ymylon ble mae'r dref a chefn gwlad yn ymdoddi i'w gilydd.  Mae datblygiadau o gwmpas ymylon trefi yn ychwanegu haenau ychwanegol o dai, diwydiant a manwerthu ac yn aml maent yn ehangu tref i un cyfeiriad, ar hyd ffordd bwysig efallai.

Cwestiynau i'w gofyn:

  • A yw ymylon y dref yn glir? A gânt eu diffinio gan grib, afon, arfordir neu ffordd?
  • A yw eich tref yn ymdoddi i'r amgylchoedd neu a yw'r ffin yn un sydyn?
  • A yw eich tref yn ehangu neu'n crebachu?
  • A yw hi'n tyfu neu'n encilio i unrhyw gyfeiriad?
  • A oes datblygiadau newydd wedi'u lleoli o gwmpas yr ymylon?

Rhestr wirio:

  • Nodwch a marciwch ymylon y dref ar fap
  • Disgrifiwch ymylon y dref a beth sy'n digwydd yno
  • Gwiriwch a yw'r dref yn ehangu, ac i ba gyfeiriadau

 

Parciau a mannau gwyrdd

Pa mor wyrdd yw eich tref?  Mae seilwaith gwyrdd tref yn cynnwys coed ar strydoedd, ymylon ffyrdd a pherthi, parciau poced, lawntiau, mynwentydd, parciau, lotments, glannau môr a glannau afon.  Mae mannau gwyrdd llwyddiannus yn dod â buddion pellgyrhaeddol trwy annog bioamrywiaeth, rhyngweithio cymdeithasol, ymarfer a chwarae.  Mae trefi a dinasoedd sydd â mannau gwyrdd o ansawdd uchel yn denu buddsoddiad economaidd ac fe'u canfyddir fel lleoedd da i fyw a gweithio ynddynt, ac mae plant yn cymdeithasu'n well ble mae lleoedd da i chwarae yn yr awyr agored. [1] Mae'r mannau gwyrdd gorau yn annog cymysgedd o ddefnyddwyr a defnyddiau.

Cwestiynau i'w gofyn:

  • Ble mae'r mannau gwyrdd yn eich tref?
  • A ydyw pobl yn eu defnyddio ?
  • Ble mae'r parciau a'r mannau gwyrdd mwyaf poblogaidd?
  • A yw'r mannau gwyrdd wedi'u cysylltu â'i gilydd?
  • A ydynt yn cael eu cynnal yn dda?
  • A oes amrywiaeth o wahanol weithgareddau ar gael ynddynt?
  • A yw'r mannau gwyrdd yn ymgysylltu â'r dirwedd ehangach?

“Pan gânt eu gweu i ddeunydd ffisegol datblygiad trefol, y system barciau yw'r arwydd mwyaf o dir y cyhoedd sy'n corffori gwerthoedd cymdeithas ddinesig, a'r modd y mae ei dinasyddion ieuaf yn dysgu sut i ofalu am y byd naturiol.  Caiff mynegiant diwylliannol, patrymau ymddygiad a chymdeithasgarwch, cydraddoldeb mynediad a chyfranogiad cymunedol – yr arian cyfred cymdeithasol mewn cymunedau cynaliadwy – bob un eu hannog i ffynnu drwy fannau gwyrdd taclus, a ddefnyddir yn helaeth. Dyma yw “cyfanedd-dra” ar ei ffurf fwyaf adnabyddadwy.” [2]

Gall mannau gwyrdd sy'n cael eu dylunio a'u cynnal yn dda ac sy'n dwyn perthynas â thirwedd a threftadaeth y dref fod yn elfen bwysig o'i nodweddion unigryw lleol.  Mae rhai trefi wedi creu nodweddion unigryw trwy ddefnydd arloesol o fannau gwyrdd ac amaethyddiaeth drefol:

 

Ceisiwch ysbrydoliaeth gan... Incredible Edible

Sefydlwyd gan grŵp o bobl gyda syniad syml: defnyddio mannau anghynhyrchiol yn eu tref i dyfu planhigion bwytadwy i fwydo'r gymuned

 

Ceisiwch ysbrydoliaeth gan ... Fruity Streets: The Triangle

Ym mhrosiect cyntaf menter ar y cyd rhwng cwmni datblygu HAB Kevin McCloud ac Oakus, mae datblygiad The Triangle yn cynnwys maes y pentref canolog gyda lleiniau o dir yn casglu dŵr ffo a gardd fywyd gwyllt, ynghyd â gardd lysiau a blychau plannu ar gyfer coed ffrwythau.

 

Rhestr wirio:

  • Nodwch a marciwch y mannau gwyrdd yn y dref ar fap
  • Rhestrwch y gwahanol ddefnyddiau o'r mannau gwyrdd a geir yn eich tref

 

Am fwy o wybodaeth…

Canllaw'r Sefydliad Tirwedd i seilwaith gwyrdd lleol – Canllaw i helpu cymunedau i wneud y gorau o'u mannau gwyrdd

ACRE – Pecyn cymorth seilwaith gwyrdd Swydd Northampton ar gyfer grwpiau cymunedol a chymunedau sydd â diddordeb mewn prosiectau seilwaith gwyrdd

Trees in the Townscape – Canllaw arfer gorau i sicrhau bod coed yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u plannu'n gynaliadwy mewn lleoliad tref o'r 21ain ganrif

Prosperous Parks – Pecyn cymorth cynhyrchu incwm a gynlluniwyd i helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer mwy o fannau agored cyhoeddus ar draws y wlad

 

Dechreuwch astudio... Treflun

 

 

[1] Groundwork & Julian Dobson, ‘Grey Places Need Green Spaces: The Case for Investing in our Nation’s Natural Assets’ p1

[2] Alan Barber, ‘Green Future’ p7